×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 66

1
1 I'r Cyfarwyddwr: Cn. Salm.0 Bloeddiwch mewn gorfoledd i Dduw, yr holl ddaear;
2
canwch i ogoniant ei enw; rhowch iddo foliant gogoneddus.
3
Dywedwch wrth Dduw, "Mor ofnadwy yw dy weithredoedd! Gan faint dy nerth ymgreinia dy elynion o'th flaen;
4
y mae'r holl ddaear yn ymgrymu o'th flaen, ac yn canu mawl i ti, yn canu mawl i'th enw." Sela.
5
Dewch i weld yr hyn a wnaeth Duw y mae'n ofnadwy yn ei weithredoedd tuag at bobl
6
trodd y mr yn sychdir, aethant ar droed trwy'r afon; yno y llawenychwn ynddo.
7
Y mae ef yn llywodraethu 'i nerth am byth, a'i lygaid yn gwylio dros y cenhedloedd; na fydded i'r gwrthryfelwyr godi yn ei erbyn! Sela.
8
Bendithiwch ein Duw, O bobloedd, a seiniwch ei fawl yn glywadwy.
9
Ef a roes le i ni ymysg y byw, ac ni adawodd i'n troed lithro.
10
Oherwydd buost yn ein profi, O Dduw, ac yn ein coethi fel arian.
11
Dygaist ni i'r rhwyd, rhoist rwymau amdanom,
12
gadewaist i ddynion farchogaeth dros ein pennau, aethom trwy dn a dyfroedd; ond dygaist ni allan i ryddid.
13
Dof i'th deml phoethoffrymau, talaf i ti fy addunedau,
14
a wneuthum 'm gwefusau ac a lefarodd fy ngenau pan oedd yn gyfyng arnaf.
15
Aberthaf i ti basgedigion yn boethoffrymau, a hefyd hyrddod yn arogldarth; darparaf ychen a bychod geifr. Sela.
16
Dewch i wrando, chwi oll sy'n ofni Duw, ac adroddaf yr hyn a wnaeth Duw i mi.
17
Gwaeddais arno 'm genau, ac yr oedd moliant ar fy nhafod.
18
Pe bawn wedi coleddu drygioni yn fy nghalon, ni fuasai'r Arglwydd wedi gwrando;
19
ond yn wir, gwrandawodd Duw, a rhoes sylw i lef fy ngweddi.
20
Bendigedig fyddo Duw am na throdd fy ngweddi oddi wrtho, na'i ffyddlondeb oddi wrthyf.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau