Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: ag offerynnau llinynnol. Salm. Cn.0 Bydded Duw yn drugarog wrthym a'n bendithio, bydded llewyrch ei wyneb arnom, Sela. |
| 2 |
| er mwyn i'w ffyrdd fod yn wybyddus ar y ddaear, a'i waredigaeth ymysg yr holl genhedloedd. |
| 3 |
| Bydded i'r bobloedd dy foli, O Dduw, bydded i'r holl bobloedd dy foli di. |
| 4 |
| Bydded i'r cenhedloedd lawenhau a gorfoleddu, oherwydd yr wyt ti'n barnu pobloedd yn gywir, ac yn arwain cenhedloedd ar y ddaear. Sela. |
| 5 |
| Bydded i'r bobloedd dy foli, O Dduw, bydded i'r holl bobloedd dy foli di. |
| 6 |
| Rhoes y ddaear ei chnwd; Duw, ein Duw ni, a'n bendithiodd. |
| 7 |
| Bendithiodd Duw ni; bydded holl gyrrau'r ddaear yn ei ofni. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/067.mp3
150
67