Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| I'r arweinydd cerdd: Cân i gyfeiliant offerynnol. Salm. [1] O Dduw, dangos drugaredd aton ni a'n bendithio ni. Bydd yn garedig wrthon ni. Saib |
| 2 |
| Wedyn bydd pawb drwy'r byd yn gwybod sut un wyt ti; bydd y gwledydd i gyd yn gwybod dy fod ti'n gallu achub. |
| 3 |
| Bydd pobloedd yn dy foli, O Dduw; bydd y bobloedd i gyd yn dy foli di! |
| 4 |
| Bydd y cenhedloedd yn dathlu ac yn gweiddi'n llawen, am dy fod ti'n barnu'n hollol deg, ac yn arwain cenhedloedd y ddaear. Saib |
| 5 |
| Bydd pobloedd yn dy foli, O Dduw; bydd y bobloedd i gyd yn dy foli di! |
| 6 |
| Mae'r tir yn rhoi ei gynhaeaf i ni! O Dduw, ein Duw, dal ati i'n bendithio. |
| 7 |
| O Dduw, bendithia ni! Wedyn bydd pobl drwy'r byd i gyd yn dy addoli. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/067.mp3
150
67