Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 Siggaion. I Ddafydd, a ganodd i'r ARGLWYDD ynglu375?n Cus o Benjamin.0 O ARGLWYDD fy Nuw, ynot ti y llochesaf; gwared fi rhag fy holl erlidwyr, ac arbed fi, |
| 2 |
| rhag iddynt fy llarpio fel llew, a'm darnio heb neb i'm gwaredu. |
| 3 |
| O ARGLWYDD fy Nuw, os gwneuthum hyn os oes twyll ar fy nwylo, |
| 4 |
| os telais ddrwg am dda i'm cyfaill, ac ysbeilio fy ngwrthwynebwr heb achos |
| 5 |
| bydded i'm gelyn fy erlid a'm dal, bydded iddo sathru fy einioes i'r ddaear, a gosod f'anrhydedd yn y llwch. Sela. |
| 6 |
| Saf i fyny, O ARGLWYDD, yn dy ddig; cyfod yn erbyn llid fy ngelynion; deffro, fy Nuw, i drefnu barn. |
| 7 |
| Bydded i'r bobloedd ymgynnull o'th amgylch; eistedd dithau'n oruchel uwch eu pennau. |
| 8 |
| O ARGLWYDD, sy'n barnu pobloedd, barna fi yn l fy nghyfiawnder, O ARGLWYDD, ac yn l y cywirdeb sydd ynof. |
| 9 |
| Bydded diwedd ar ddrygioni'r drygionus, ond cadarnha di y cyfiawn, ti sy'n profi meddyliau a chalonnau, ti Dduw cyfiawn. |
| 10 |
| Duw yw fy nharian, ef sy'n gwaredu'r cywir o galon. |
| 11 |
| Duw sydd farnwr cyfiawn, a Duw sy'n dedfrydu bob amser. |
| 12 |
| Yn wir, y mae'r drygionus yn hogi ei gleddyf eto, yn plygu ei fwa ac yn ei wneud yn barod; |
| 13 |
| y mae'n darparu ei arfau marwol, ac yn gwneud ei saethau'n danllyd. |
| 14 |
| Y mae'n feichiog o ddrygioni, yn cenhedlu niwed ac yn geni twyll. |
| 15 |
| Y mae'n cloddio pwll ac yn ei geibio, ac yn syrthio i'r twll a wnaeth. |
| 16 |
| Fe ddychwel ei niwed arno ef ei hun, ac ar ei ben ef y disgyn ei drais. |
| 17 |
| Diolchaf i'r ARGLWYDD am ei gyfiawnder, a chanaf fawl i enw'r ARGLWYDD Goruchaf. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/007.mp3
150
7