Salm alar gan Dafydd. Canodd hi i'r ARGLWYDD am Cwsh, un o lwyth Benjamin. [1] O ARGLWYDD, fy Nuw, dw i'n troi atat ti am loches. Helpa fi i ddianc oddi wrth y rhai sy'n fy erlid. Achub fi,
Côd, ARGLWYDD! Dangos dy fod ti'n ddig, a sefyll yn erbyn ymosodiadau ffyrnig y gelyn! Symud! Tyrd i ymladd ar fy rhan i, a dangos sut rwyt ti'n mynd i'w barnu nhw!
O Dduw cyfiawn, yr un sy'n treiddio'r meddwl a'r gydwybod, stopia'r holl ddrygioni mae pobl yn ei wneud. Ond gwna'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn gadarn.