×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 70

1
1 I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd, er coffadwriaeth.0 Bydd fodlon i'm gwaredu, O Dduw; O ARGLWYDD, brysia i'm cynorthwyo.
2
Doed cywilydd, a gwaradwydd hefyd, ar y rhai sy'n ceisio fy mywyd; bydded i'r rhai sy'n cael pleser o wneud drwg imi gael eu troi yn eu holau mewn dryswch.
3
Bydded i'r rhai sy'n gweiddi, "Aha! Aha!" arnaf droi yn eu holau o achos eu gwaradwydd.
4
Ond bydded i bawb sy'n dy geisio di lawenhau a gorfoleddu ynot; bydded i'r rhai sy'n caru dy iachawdwriaeth ddweud yn wastad, "Mawr yw Duw."
5
Un tlawd ac anghenus wyf fi; O Dduw, brysia ataf. Ti yw fy nghymorth a'm gwaredydd; O ARGLWYDD, paid ag oedi.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau