×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 70

1
I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. I'th atgoffa. [1] O Dduw, achub fi! O ARGLWYDD, brysia i'm helpu!
2
Gwna i'r rhai sydd am fy lladd i deimlo embaras a chywilydd. Gwna i'r rhai sydd am wneud niwed i mi droi yn ôl mewn cywilydd.
3
Gwna i'r rhai sy'n chwerthin ar fy mhen droi yn ôl mewn cywilydd.
4
Ond gwna i bawb sy'n dy geisio di ddathlu'n llawen! Gwna i'r rhai sy'n mwynhau dy weld ti'n achub ddweud, “Mae Duw mor fawr!”
5
Dw i mewn angen ac yn ddiamddiffyn; O Dduw, brysia ata i! Ti ydy'r un sy'n gallu fy helpu a'm hachub. O ARGLWYDD, paid oedi!
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau