|
| 1 |
|
| Ynot ti, ARGLWYDD, y ceisiais loches; na fydded cywilydd arnaf byth. |
|
| 2 |
|
| Yn dy gyfiawnder gwared ac achub fi, tro dy glust ataf ac arbed fi. |
|
| 3 |
|
| Bydd yn graig noddfa i mi, yn amddiffynfa i'm cadw, oherwydd ti yw fy nghraig a'm hamddiffynfa. |
|
| 4 |
|
| O fy Nuw, gwared fi o law'r drygionus, o afael yr anghyfiawn a'r creulon. |
|
| 5 |
|
| Oherwydd ti, Arglwydd, yw fy ngobaith, fy ymddiriedaeth o'm hieuenctid, O ARGLWYDD. |
|
| 6 |
|
| Arnat ti y bm yn pwyso o'm genedigaeth; ti a'm tynnodd allan o groth fy mam. Amdanat ti y bydd fy mawl yn wastad. |
|
| 7 |
|
| Bm fel pe'n rhybudd i lawer; ond ti yw fy noddfa gadarn. |
|
| 8 |
|
| Y mae fy ngenau'n llawn o'th foliant ac o'th ogoniant bob amser. |
|
| 9 |
|
| Paid 'm bwrw ymaith yn amser henaint; paid 'm gadael pan fydd fy nerth yn pallu. |
|
| 10 |
|
| Oherwydd y mae fy ngelynion yn siarad amdanaf, a'r rhai sy'n gwylio am fy einioes yn trafod gyda'i gilydd, |
|
| 11 |
|
| ac yn dweud, "Y mae Duw wedi ei adael; ewch ar ei l a'i ddal, oherwydd nid oes gwaredydd." |
|
| 12 |
|
| O Dduw, paid phellhau oddi wrthyf; O fy Nuw, brysia i'm cynorthwyo. |
|
| 13 |
|
| Doed cywilydd a gwarth ar fy ngwrthwynebwyr, a gwaradwydd yn orchudd dros y rhai sy'n ceisio fy nrygu. |
|
| 14 |
|
| Ond byddaf fi'n disgwyl yn wastad, ac yn dy foli'n fwy ac yn fwy. |
|
| 15 |
|
| Bydd fy ngenau'n mynegi dy gyfiawnder a'th weithredoedd achubol trwy'r amser, oherwydd ni wn eu nifer. |
|
| 16 |
|
| Dechreuaf gyda'r gweithredoedd grymus, O Arglwydd DDUW; soniaf am dy gyfiawnder di yn unig. |
|
| 17 |
|
| O Dduw, dysgaist fi o'm hieuenctid, ac yr wyf yn dal i gyhoeddi dy ryfeddodau; |
|
| 18 |
|
| a hyd yn oed pan wyf yn hen a phenwyn, O Dduw, paid 'm gadael, nes imi fynegi dy rym i'r cenedlaethau sy'n codi. |
|
| 19 |
|
| Y mae dy gryfder a'th gyfiawnder, O Dduw, yn cyrraedd i'r uchelder, oherwydd iti wneud pethau mawr. O Dduw, pwy sydd fel tydi? |
|
| 20 |
|
| Ti, a wnaeth imi weld cyfyngderau mawr a chwerw, fydd yn fy adfywio drachefn; ac o ddyfnderau'r ddaear fe'm dygi i fyny unwaith eto. |
|
| 21 |
|
| Byddi'n ychwanegu at fy anrhydedd, ac yn troi i'm cysuro. |
|
| 22 |
|
| Byddaf finnau'n dy foliannu 'r nabl am dy ffyddlondeb, O fy Nuw; byddaf yn canu i ti 'r delyn, O Sanct Israel. |
|
| 23 |
|
| Bydd fy ngwefusau'n gweiddi'n llawen oherwydd canaf i ti a hefyd yr enaid a waredaist. |
|
| 24 |
|
| Bydd fy nhafod beunydd yn sn am dy gyfiawnder; oherwydd daeth cywilydd a gwaradwydd ar y rhai a fu'n ceisio fy nrygu. |
|
|
|
|