|
| 1 |
|
| 1 I Solomon.0 O Dduw, rho dy farnedigaeth i'r brenin, a'th gyfiawnder i fab y brenin. |
|
| 2 |
|
| Bydded iddo farnu dy bobl yn gyfiawn, a'th rai anghenus yn gywir. |
|
| 3 |
|
| Doed y mynyddoedd heddwch i'r bobl, a'r bryniau chyfiawnder. |
|
| 4 |
|
| Bydded iddo amddiffyn achos tlodion y bobl, a gwaredu'r rhai anghenus, a dryllio'r gorthrymwr. |
|
| 5 |
|
| Bydded iddo fyw tra bo haul a chyhyd 'r lleuad, o genhedlaeth i genhedlaeth. |
|
| 6 |
|
| Bydded fel glaw yn disgyn ar gnwd, ac fel cawodydd yn dyfrhau'r ddaear. |
|
| 7 |
|
| Bydded cyfiawnder yn llwyddo yn ei ddyddiau, a heddwch yn ffynnu tra bo lleuad. |
|
| 8 |
|
| Bydded iddo lywodraethu o fr i fr, ac o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear. |
|
| 9 |
|
| Bydded i'w wrthwynebwyr blygu o'i flaen, ac i'w elynion lyfu'r llwch. |
|
| 10 |
|
| Bydded i frenhinoedd Tarsis a'r ynysoedd ddod ag anrhegion iddo, ac i frenhinoedd Sheba a Seba gyflwyno eu teyrnged. |
|
| 11 |
|
| Bydded i'r holl frenhinoedd ymostwng o'i flaen, ac i'r holl genhedloedd ei wasanaethu. |
|
| 12 |
|
| Oherwydd y mae'n gwaredu'r anghenus pan lefa, a'r tlawd pan yw heb gynorthwywr. |
|
| 13 |
|
| Y mae'n tosturio wrth y gwan a'r anghenus, ac yn gwaredu bywyd y tlodion. |
|
| 14 |
|
| Y mae'n achub eu bywyd rhag trais a gorthrwm, ac y mae eu gwaed yn werthfawr yn ei olwg. |
|
| 15 |
|
| Hir oes fo iddo, a rhodder iddo aur o Sheba; aed gweddi i fyny ar ei ran yn wastad, a chaffed ei fendithio bob amser. |
|
| 16 |
|
| Bydded digonedd o u375?d yn y wlad, yn tyfu hyd at bennau'r mynyddoedd; a bydded ei gnwd yn cynyddu fel Lebanon, a'i rawn fel gwellt y maes. |
|
| 17 |
|
| Bydded ei enw'n aros hyd byth, ac yn para cyhyd 'r haul; a'r holl genhedloedd yn cael bendith ynddo ac yn ei alw'n fendigedig. |
|
| 18 |
|
| Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel; ef yn unig sy'n gwneud rhyfeddodau. |
|
| 19 |
|
| Bendigedig fyddo'i enw gogoneddus hyd byth, a bydded yr holl ddaear yn llawn o'i ogoniant. Amen ac Amen. |
|
| 20 |
|
| Diwedd gweddau Dafydd fab Jesse. |
|
|
|
|