|
| 1 |
|
| 1 Salm. I Asaff.0 Yn sicr, da yw Duw i'r uniawn, a'r Arglwydd i'r rhai pur o galon. |
|
| 2 |
|
| Yr oedd fy nhraed bron baglu, a bu ond y dim i'm gwadnau lithro, |
|
| 3 |
|
| am fy mod yn cenfigennu wrth y trahaus ac yn eiddigeddus o lwyddiant y drygionus. |
|
| 4 |
|
| Oherwydd nid oes ganddynt hwy ofidiau; y mae eu cyrff yn iach a graenus. |
|
| 5 |
|
| Nid ydynt hwy mewn helynt fel pobl eraill, ac nid ydynt hwy'n cael eu poenydio fel eraill. |
|
| 6 |
|
| Am hynny, y mae balchder yn gadwyn am eu gyddfau, a thrais yn wisg amdanynt. |
|
| 7 |
|
| Y mae eu llygaid yn disgleirio o fraster, a'u calonnau'n gorlifo o ffolineb. |
|
| 8 |
|
| Y maent yn gwawdio ac yn siarad yn ddichellgar, yn sn yn ffroenuchel am ormes. |
|
| 9 |
|
| Gosodant eu genau yn erbyn y nefoedd, ac y mae eu tafod yn tramwyo'r ddaear. |
|
| 10 |
|
| Am hynny, y mae'r bobl yn troi atynt, ac ni chnt unrhyw fai ynddynt. |
|
| 11 |
|
| Dywedant, "Sut y mae Duw'n gwybod? A oes gwybodaeth gan y Goruchaf?" |
|
| 12 |
|
| Edrych, dyma hwy y rhai drygionus bob amser mewn esmwythyd ac yn casglu cyfoeth. |
|
| 13 |
|
| Yn gwbl ofer y cedwais fy nghalon yn ln, a golchi fy nwylo am fy mod yn ddieuog; |
|
| 14 |
|
| ar hyd y dydd yr wyf wedi fy mhoenydio, ac fe'm cosbir bob bore. |
|
| 15 |
|
| Pe buaswn wedi dweud, "Fel hyn y siaradaf", buaswn wedi bradychu cenhedlaeth dy blant. |
|
| 16 |
|
| Ond pan geisiais ddeall hyn, yr oedd yn rhy anodd i mi, |
|
| 17 |
|
| nes imi fynd i gysegr Duw; yno y gwelais eu diwedd. |
|
| 18 |
|
| Yn sicr, yr wyt yn eu gosod ar fannau llithrig, ac yn gwneud iddynt syrthio i ddistryw. |
|
| 19 |
|
| Fe nt i ddinistr ar amrantiad, fe'u cipir yn llwyr gan ddychrynfeydd. |
|
| 20 |
|
| Fel breuddwyd ar l ymysgwyd, y maent wedi mynd; wrth ddeffro fe'u diystyrir fel hunllef. |
|
| 21 |
|
| Pan oedd fy nghalon yn chwerw a'm coluddion wedi eu trywanu, |
|
| 22 |
|
| yr oeddwn yn ddwl a diddeall, ac yn ymddwyn fel anifail tuag atat. |
|
| 23 |
|
| Er hynny, yr wyf gyda thi bob amser; yr wyt yn cydio yn fy neheulaw. |
|
| 24 |
|
| Yr wyt yn fy arwain 'th gyngor, ac yna'n fy nerbyn mewn gogoniant. |
|
| 25 |
|
| Pwy sydd gennyf yn y nefoedd ond ti? Ac nid wyf yn dymuno ond tydi ar y ddaear. |
|
| 26 |
|
| Er i'm calon a'm cnawd ballu, eto y mae Duw yn gryfder i'm calon ac yn rhan imi am byth. |
|
| 27 |
|
| Yn wir, fe ddifethir y rhai sy'n bell oddi wrthyt, a byddi'n dinistrio'r rhai sy'n anffyddlon i ti. |
|
| 28 |
|
| Ond da i mi yw bod yn agos at Dduw; yr wyf wedi gwneud yr Arglwydd DDUW yn gysgod i mi, er mwyn imi fynegi dy ryfeddodau. |
|
|
|
|