|
| 1 |
|
| 1 Mascl. I Asaff.0 Pam, Dduw, y bwriaist ni ymaith am byth? Pam y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa? |
|
| 2 |
|
| Cofia dy gynulleidfa a brynaist gynt, y llwyth a waredaist yn etifeddiaeth iti, a Mynydd Seion lle'r oeddit yn trigo. |
|
| 3 |
|
| Cyfeiria dy draed at yr adfeilion bythol; dinistriodd y gelyn bopeth yn y cysegr. |
|
| 4 |
|
| Rhuodd dy elynion yng nghanol dy gysegr, a gosod eu harwyddion eu hunain yn arwyddion yno. |
|
| 5 |
|
| Y maent wedi malurio, fel coedwigwyr yn chwifio'u bwyeill mewn llwyn o goed. |
|
| 6 |
|
| Rhwygasant yr holl waith cerfiedig a'i falu bwyeill a morthwylion. |
|
| 7 |
|
| Rhoesant dy gysegr ar dn, a halogi'n llwyr breswylfod dy enw. |
|
| 8 |
|
| Dywedasant ynddynt eu hunain, "Difodwn hwy i gyd"; llosgasant holl gysegrau Duw trwy'r tir. |
|
| 9 |
|
| Ni welwn arwyddion i ni, nid oes proffwyd mwyach; ac nid oes yn ein plith un a u373?yr am ba hyd. |
|
| 10 |
|
| Am ba hyd, O Dduw, y gwawdia'r gwrthwynebwr? A yw'r gelyn i ddifro dy enw am byth? |
|
| 11 |
|
| Pam yr wyt yn atal dy law, ac yn cuddio dy ddeheulaw yn dy fynwes? |
|
| 12 |
|
| Ond ti, O Dduw, yw fy mrenin erioed, yn gweithio iachawdwriaeth ar y ddaear. |
|
| 13 |
|
| Ti, 'th nerth, a rannodd y mr, torraist bennau'r dreigiau yn y dyfroedd. |
|
| 14 |
|
| Ti a ddrylliodd bennau Lefiathan, a'i roi'n fwyd i fwystfilod y mr. |
|
| 15 |
|
| Ti a agorodd ffynhonnau ac afonydd, a sychu'r dyfroedd di-baid. |
|
| 16 |
|
| Eiddot ti yw dydd a nos, ti a sefydlodd oleuni a haul. |
|
| 17 |
|
| Ti a osododd holl derfynau daear, ti a drefnodd haf a gaeaf. |
|
| 18 |
|
| Cofia, O ARGLWYDD, fel y mae'r gelyn yn gwawdio, a phobl ynfyd yn difro dy enw. |
|
| 19 |
|
| Paid rhoi dy golomen i'r bwystfilod, nac anghofio bywyd dy drueiniaid am byth. |
|
| 20 |
|
| Rho sylw i'th gyfamod, oherwydd y mae cuddfannau'r ddaear yn llawn ac yn gartref i drais. |
|
| 21 |
|
| Paid gadael i'r gorthrymedig droi ymaith yn ddryslyd; bydded i'r tlawd a'r anghenus glodfori dy enw. |
|
| 22 |
|
| Cyfod, O Dduw, i ddadlau dy achos; cofia fel y mae'r ynfyd yn dy wawdio'n wastad. |
|
| 23 |
|
| Paid ag anghofio crechwen dy elynion, a chrochlefain cynyddol dy wrthwynebwyr. |
|
|
|
|