Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: ar Na Ddinistria. Salm. I Asaff. Cn.0 Diolchwn i ti, O Dduw, diolchwn i ti; y mae dy enw yn agos wrth adrodd am dy ryfeddodau. |
| 2 |
| Manteisiaf ar yr amser penodedig, ac yna barnaf yn gywir. |
| 3 |
| Pan fo'r ddaear yn gwegian, a'i holl drigolion, myfi sy'n cynnal ei cholofnau. Sela. |
| 4 |
| Dywedaf wrth yr ymffrostgar, "Peidiwch ag ymffrostio", ac wrth y drygionus, "Peidiwch chodi'ch corn; |
| 5 |
| peidiwch chodi'ch corn yn uchel na siarad yn haerllug wrth eich Craig." |
| 6 |
| Nid o'r dwyrain na'r gorllewin nac o'r anialwch y bydd dyrchafu, |
| 7 |
| ond Duw fydd yn barnu yn darostwng y naill ac yn codi'r llall. |
| 8 |
| Oherwydd y mae cwpan yn llaw'r ARGLWYDD, a'r gwin yn ewynnu ac wedi ei gymysgu; fe dywallt ddiod ohono, a bydd holl rai drygionus y ddaear yn ei yfed i'r gwaelod. |
| 9 |
| Ond clodforaf fi am byth, a chanaf fawl i Dduw Jacob, |
| 10 |
| am ei fod yn torri ymaith holl gyrn y drygionus, a chyrn y cyfiawn yn cael eu dyrchafu. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/075.mp3
150
75