×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 76

1
1 I'r Cyfarwyddwr: ar offerynnau llinynnol. Salm. I Asaff. Cn.0 Y mae Duw'n adnabyddus yn Jwda, a'i enw'n fawr yn Israel;
2
y mae ei babell wedi ei gosod yn Salem, a'i gartref yn Seion.
3
Yno fe faluriodd y saethau tanllyd, y darian, y cleddyf a'r arfau rhyfel. Sela.
4
Ofnadwy wyt ti, a chryfach na'r mynyddoedd tragwyddol.
5
Ysbeiliwyd y rhai cryf o galon, y maent wedi suddo i gwsg, a phallodd nerth yr holl ryfelwyr.
6
Gan dy gerydd di, O Dduw Jacob, syfrdanwyd y marchog a'r march.
7
Ofnadwy wyt ti. Pwy a all sefyll o'th flaen pan fyddi'n ddig?
8
Yr wyt wedi cyhoeddi dedfryd o'r nefoedd; ofnodd y ddaear a distewi
9
pan gododd Duw i farnu, ac i waredu holl drueiniaid y ddaear. Sela.
10
Bydd Edom, er ei ddig, yn dy foliannu, a gweddill Hamath yn cadw gu373?yl i ti.
11
Gwnewch eich addunedau i'r ARGLWYDD eich Duw, a'u talu; bydded i bawb o'i amgylch ddod rhoddion i'r un ofnadwy.
12
Y mae'n dryllio ysbryd tywysogion, ac yn arswyd i frenhinoedd y ddaear.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau