Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| I'r arweinydd cerdd. Salm gan Asaff i gyfeiliant offerynnol. Cân. [1] Mae pawb yn Jwda'n gwybod am Dduw; mae ganddo enw da yn Israel. |
| 2 |
| Mae'n byw ar fynydd Seion, yn Jerwsalem, dinas heddwch. |
| 3 |
| Dyna ble torrodd e'r saethau tanllyd, y darian, y cleddyf, a'r holl arfau rhyfel. Saib |
| 4 |
| Ti ydy'r Un Disglair, yr Un Hardd sy'n dod i lawr o'r mynyddoedd ar ôl trechu dy elynion. |
| 5 |
| Cafodd eu milwyr dewr eu hysbeilio! Maen nhw'n ‛cysgu‛ am y tro ola! Doedd y rhyfelwr cryfaf ddim yn gallu codi bys! |
| 6 |
| Dyma ti'n rhoi bloedd, O Dduw Jacob, ac roedd pob marchog a gyrrwr cerbyd yn farw. |
| 7 |
| O! Rwyt ti mor rhyfeddol! Pwy sy'n gallu sefyll yn dy erbyn pan rwyt ti'n ddig? |
| 8 |
| Wrth i ti gyhoeddi dy ddedfryd o'r nefoedd, roedd y ddaear wedi ei pharlysu gan ofn, |
| 9 |
| wrth weld Duw yn codi i farnu ac achub y rhai sy'n cael eu cam-drin yn y tir. Saib |
| 10 |
| Bydd rhai mwyaf ffyrnig y ddaear yn dy gydnabod pan fyddi'n dangos dy ddigofaint yn llawn. |
| 11 |
| Gwnewch addunedau i'r ARGLWYDD eich Duw, a'u cadw! Boed i bawb sydd o'i gwmpas ddod â rhoddion i'r Duw sydd i'w ofni! |
| 12 |
| Mae'n torri crib y llywodraethwyr balch, ac yn dychryn brenhinoedd y ddaear. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/076.mp3
150
76