×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 77

1
1 I'r Cyfarwyddwr: ar Jeduthun. I Asaff. Salm.0 Gwaeddais yn uchel ar Dduw, yn uchel ar Dduw, a chlywodd fi.
2
Yn nydd fy nghyfyngder ceisiais yr Arglwydd, ac yn y nos estyn fy nwylo'n ddiflino; nid oedd cysuro ar fy enaid.
3
Pan feddyliaf am Dduw, yr wyf yn cwyno; pan fyfyriaf, fe balla f'ysbryd. Sela.
4
Cedwaist fy llygaid rhag cau; fe'm syfrdanwyd, ac ni allaf siarad.
5
Af yn l i'r dyddiau gynt a chofio am y blynyddoedd a fu;
6
meddyliaf ynof fy hun yn y nos, myfyriaf, a'm holi fy hunan,
7
"A wrthyd yr Arglwydd am byth, a pheidio gwneud ffafr mwyach?
8
A yw ei ffyddlondeb wedi darfod yn llwyr, a'i addewid wedi ei hatal am genedlaethau?
9
A yw Duw wedi anghofio trugarhau? A yw yn ei lid wedi cloi ei dosturi?" Sela.
10
Yna dywedais, "Hyn yw fy ngofid: A yw deheulaw'r Goruchaf wedi pallu?
11
Galwaf i gof weithredoedd yr ARGLWYDD, a chofio am dy ryfeddodau gynt.
12
Meddyliaf am dy holl waith, a myfyriaf am dy weithredoedd.
13
O Dduw, sanctaidd yw dy ffordd; pa dduw sydd fawr fel ein Duw ni?
14
Ti yw'r Duw sy'n gwneud pethau rhyfeddol; dangosaist dy rym ymhlith y bobloedd.
15
'th fraich gwaredaist dy bobl, disgynyddion Jacob a Joseff. Sela.
16
Gwelodd y dyfroedd di, O Dduw, gwelodd y dyfroedd di ac arswydo; yn wir, yr oedd y dyfnder yn crynu.
17
Tywalltodd y cymylau ddu373?r, ac yr oedd y ffurfafen yn taranu; fflachiodd dy saethau ar bob llaw.
18
Yr oedd su373?n dy daranau yn y corwynt, goleuodd dy fellt y byd; ysgydwodd y ddaear a chrynu.
19
Aeth dy ffordd drwy'r mr, a'th lwybr trwy ddyfroedd nerthol; ond ni welwyd l dy gamau.
20
Arweiniaist dy bobl fel praidd, trwy law Moses ac Aaron.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau