Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| I'r arweinydd cerdd: Salm ar yr alaw ‛Y Gwinwryf‛. Salm Dafydd. [1] O ARGLWYDD, ein brenin, mae dy enw di mor fawr drwy'r byd i gyd! Mae dy ysblander yn gorchuddio'r nefoedd yn gyfan! |
| 2 |
| Gyda lleisiau plant bach a babanod rwyt yn dangos dy nerth, yn wyneb dy elynion, i roi diwedd ar y gelyn sy'n hoffi dial. |
| 3 |
| Wrth edrych allan i'r gofod, a gweld gwaith dy fysedd, y lleuad a'r sêr a osodaist yn eu lle, |
| 4 |
| Beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw? Pam cymryd sylw o un person dynol? |
| 5 |
| Rwyt wedi ei wneud ond ychydig is na'r bodau nefol, ac wedi ei goroni ag ysblander a mawredd! |
| 6 |
| Rwyt wedi ei wneud yn feistr ar waith dy ddwylo, a gosod popeth dan ei awdurdod — |
| 7 |
| defaid ac ychen o bob math, a hyd yn oed yr anifeiliaid gwylltion; |
| 8 |
| yr adar sy'n hedfan, y pysgod sy'n y môr, a phopeth arall sy'n teithio ar gerrynt y moroedd. |
| 9 |
| O ARGLWYDD, ein brenin, mae dy enw di mor fawr drwy'r byd i gyd! |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/008.mp3
150
8