Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: ar Lilau. Tystiolaeth. I Asaff. Salm.0 Gwrando, O fugail Israel, sy'n arwain Joseff fel diadell. |
| 2 |
| Ti sydd wedi dy orseddu ar y cerwbiaid, disgleiria i Effraim, Benjamin a Manasse. Gwna i'th nerth gyffroi, a thyrd i'n gwaredu. |
| 3 |
| Adfer ni, O Dduw; bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni. |
| 4 |
| O ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, am ba hyd y byddi'n ddig wrth weddau dy bobl? |
| 5 |
| Yr wyt wedi eu bwydo bara dagrau, a'u diodi mesur llawn o ddagrau. |
| 6 |
| Gwnaethost ni'n ddirmyg i'n cymdogion, ac y mae ein gelynion yn ein gwawdio. |
| 7 |
| O Dduw'r Lluoedd, adfer ni; bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni. |
| 8 |
| Daethost gwinwydden o'r Aifft; gyrraist allan genhedloedd er mwyn ei phlannu; |
| 9 |
| cliriaist y tir iddi; magodd hithau wreiddiau a llenwi'r tir. |
| 10 |
| Yr oedd ei chysgod yn gorchuddio'r mynyddoedd, a'i changau fel y cedrwydd cryfion; |
| 11 |
| estynnodd ei brigau at y mr, a'i blagur at yr afon. |
| 12 |
| Pam felly y bylchaist ei chloddiau, fel bod y rhai sy'n mynd heibio yn tynnu ei ffrwyth? |
| 13 |
| Y mae baedd y goedwig yn ei thyrchu, ac anifeiliaid gwyllt yn ei phori. |
| 14 |
| O Dduw'r Lluoedd, tro eto, edrych i lawr o'r nefoedd a gwl, gofala am y winwydden hon, |
| 15 |
| y planhigyn a blennaist 'th ddeheulaw, y gainc yr wyt yn ei chyfnerthu. |
| 16 |
| Bydded i'r rhai sy'n ei llosgi thn ac yn ei thorri i lawr gael eu difetha gan gerydd dy wynepryd. |
| 17 |
| Ond bydded dy law ar y sawl sydd ar dy ddeheulaw, ar yr un yr wyt ti'n ei gyfnerthu. |
| 18 |
| Ni thrown oddi wrthyt mwyach; adfywia ni, ac fe alwn ar dy enw. |
| 19 |
| ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, adfer ni; bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/080.mp3
150
80