Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: ar y Gittith. I Asaff.0 Canwch fawl i Dduw, ein nerth; bloeddiwch mewn gorfoledd i Dduw Jacob. |
| 2 |
| Rhowch gn a chanu'r tympan, y delyn fwyn a'r nabl. |
| 3 |
| Canwch utgorn ar y lleuad newydd, ar y lleuad lawn, ar ddydd ein gu373?yl. |
| 4 |
| Oherwydd y mae hyn yn ddeddf yn Israel, yn rheol gan Dduw Jacob, |
| 5 |
| wedi ei roi'n orchymyn i Joseff pan ddaeth allan o wlad yr Aifft. Clywaf iaith nad wyf yn ei hadnabod. |
| 6 |
| Ysgafnheais y baich ar dy ysgwydd, a rhyddhau dy ddwylo oddi wrth y basgedi. |
| 7 |
| Pan waeddaist mewn cyfyngder, gwaredais di, ac atebais di yn ddirgel yn y taranau; profais di wrth ddyfroedd Meriba. Sela. |
| 8 |
| Gwrando, fy mhobl, a dygaf dystiolaeth yn dy erbyn. O na fyddit yn gwrando arnaf fi, Israel! |
| 9 |
| Na fydded gennyt dduw estron, a phaid ag ymostwng i dduw dieithr. |
| 10 |
| Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, a'th ddygodd i fyny o'r Aifft; agor dy geg, ac fe'i llanwaf. |
| 11 |
| Ond ni wrandawodd fy mhobl ar fy llais, ac nid oedd Israel yn fodlon arnaf; |
| 12 |
| felly anfonais hwy ymaith yn eu cyndynrwydd i wneud fel yr oeddent yn dymuno. |
| 13 |
| "O na fyddai fy mhobl yn gwrando arnaf, ac na fyddai Israel yn rhodio yn fy ffyrdd! |
| 14 |
| Byddwn ar fyrder yn darostwng eu gelynion, ac yn troi fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwyr." |
| 15 |
| Byddai'r rhai sy'n casu'r ARGLWYDD yn ymgreinio o'i flaen, a dyna eu tynged am byth. |
| 16 |
| Byddwn yn dy fwydo 'r u375?d gorau, ac yn dy ddigoni ml o'r graig. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/081.mp3
150
81