×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 82

1
1 Salm. I Asaff.0 Y mae Duw yn ei le yn y cyngor dwyfol; yng nghanol y duwiau y mae'n barnu.
2
"Am ba hyd y barnwch yn anghyfiawn, ac y dangoswch ffafr at y drygionus? Sela.
3
Rhowch ddedfryd o blaid y gwan a'r amddifad, gwnewch gyfiawnder 'r truenus a'r diymgeledd.
4
Gwaredwch y gwan a'r anghenus, achubwch hwy o law'r drygionus.
5
"Nid ydynt yn gwybod nac yn deall, ond y maent yn cerdded mewn tywyllwch, a holl sylfeini'r ddaear yn ysgwyd.
6
Fe ddywedais i, 'Duwiau ydych, a meibion i'r Goruchaf bob un ohonoch.'
7
Eto, byddwch farw fel meidrolion, a syrthio fel unrhyw dywysog."
8
Cyfod, O Dduw, i farnu'r ddaear, oherwydd eiddot ti yw'r holl genhedloedd.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau