×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 82

1
Salm gan Asaff. [1] Mae Duw'n sefyll i fyny yn y cyngor dwyfol; ac yn cyhoeddi dedfryd yng nghanol y ‛duwiau‛.
2
“Am faint ydych chi'n mynd i farnu'n anghyfiawn a dangos ffafr at y rhai sy'n gwneud drwg?” Saib
3
“Dylech roi dedfryd o blaid y gwan a'r amddifad! Sefyll dros hawliau y rhai anghenus sy'n cael eu gorthrymu!
4
Cadw'r rhai sy'n wan a di-rym yn saff a'u hachub nhw o afael pobl ddrwg!”
5
Ond dŷn nhw'n deall dim. Maen nhw'n crwydro yn y tywyllwch, tra mae sylfeini'r ddaear yn ysgwyd!
6
Dywedais, “Duwiau ydych chi”, “meibion y Duw Goruchaf bob un ohonoch.
7
Ond byddwch yn marw fel pobl feidrol; byddwch yn syrthio fel unrhyw arweinydd dynol.”
8
Cod, O Dduw, i farnu'r byd! Dy etifeddiaeth di ydy'r cenhedloedd i gyd.
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau