Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 Cn. Salm. I Asaff.0 O Dduw, paid bod yn ddistaw; paid thewi nac ymdawelu, O Dduw. |
| 2 |
| Edrych fel y mae dy elynion yn terfysgu, a'r rhai sy'n dy gasu yn codi eu pennau. |
| 3 |
| Gwnnt gynlluniau cyfrwys yn erbyn dy bobl, a gosod cynllwyn yn erbyn y rhai a amddiffynni, |
| 4 |
| a dweud, "Dewch, inni eu difetha fel cenedl, fel na chofir enw Israel mwyach." |
| 5 |
| Cytunasant yn unfryd 'i gilydd, a gwneud cynghrair i'th erbyn |
| 6 |
| pebyll Edom a'r Ismaeliaid, Moab a'r Hagariaid, |
| 7 |
| Gebal, Ammon ac Amalec, Philistia a thrigolion Tyrus; |
| 8 |
| Asyria hefyd a unodd gyda hwy, a chynnal breichiau tylwyth Lot. Sela. |
| 9 |
| Gwna iddynt fel y gwnaethost i Sisera, ac i Jabin wrth nant Cison, |
| 10 |
| ac i Midian, a ddinistriwyd wrth ffynnon Harod a mynd yn dom ar y ddaear. |
| 11 |
| Gwna eu mawrion fel Oreb a Seeb a'u holl dywysogion fel Seba a Salmunna, |
| 12 |
| y rhai a ddywedodd, "Meddiannwn i ni ein hunain holl borfeydd Duw." |
| 13 |
| O fy Nuw, gwna hwy fel hadau hedegog, fel us o flaen gwynt. |
| 14 |
| Fel tn yn difa coedwig, fel fflamau'n llosgi mynydd, |
| 15 |
| felly yr ymlidi hwy 'th storm, a'u brawychu 'th gorwynt. |
| 16 |
| Gwna eu hwynebau'n llawn cywilydd, er mwyn iddynt geisio dy enw, O ARGLWYDD. |
| 17 |
| Bydded iddynt aros mewn gwarth a chywilydd am byth, ac mewn gwaradwydd difether hwy. |
| 18 |
| Bydded iddynt wybod mai ti yn unig, a'th enw'n ARGLWYDD, yw'r Goruchaf dros yr holl ddaear. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/083.mp3
150
83