Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Cân. Salm gan Asaff. [1] O Dduw, paid bod yn ddistaw! Paid diystyru ni a gwneud dim! |
| 2 |
| Edrych! Mae dy elynion di'n codi twrw. Mae'r rhai sy'n dy gasáu di yn codi eu pennau. |
| 3 |
| Maen nhw mor gyfrwys, ac yn cynllwynio yn erbyn dy bobl di. Maen nhw am wneud niwed i'r rhai rwyt ti'n eu trysori! |
| 4 |
| Maen nhw'n dweud, “Gadewch i ni eu difa nhw'n llwyr! Fydd dim sôn am genedl Israel byth mwy.” |
| 5 |
| Maen nhw'n unfrydol yn eu bwriad, ac wedi ffurfio cynghrair yn dy erbyn di — |
| 6 |
| pobl Edom a'r Ismaeliaid, Moab a'r Hagriaid, |
| 7 |
| Gebal, Ammon, ac Amalec, Philistia a phobl Tyrus. |
| 8 |
| Mae Asyria wedi ymuno â nhw hefyd, i roi help llaw i ddisgynyddion Lot. Saib |
| 9 |
| Delia gyda nhw fel y gwnest ti gyda Midian — fel y gwnest ti i Sisera a Jabin, wrth afon Cison. |
| 10 |
| Cawson nhw eu dinistrio yn En-dor. Roedd eu cyrff fel tail ar wyneb y tir! |
| 11 |
| Delia gyda'i harweinwyr nhw fel y gwnest ti gydag Oreb a Seeb. Gwna eu tywysogion nhw fel Seba a Tsalmwna, |
| 12 |
| oedd am ddwyn y tir i gyd oddi ar Dduw. |
| 13 |
| O fy Nuw, trin nhw fel plu ysgall, neu us yn cael ei chwythu gan y gwynt! |
| 14 |
| Difa nhw, fel mae tân yn llosgi coedwig, a'i fflamau'n lledu dros y bryniau. |
| 15 |
| Dos ar eu hôl nhw â'th storm, a'u dychryn nhw â'th gorwynt. |
| 16 |
| Coda gywilydd arnyn nhw, a gwna iddyn nhw dy gydnabod di, O ARGLWYDD. |
| 17 |
| Cywilydd a dychryn fydd byth yn dod i ben! Gad iddyn nhw farw yn eu gwarth! |
| 18 |
| Byddan nhw'n deall wedyn mai ti ydy'r ARGLWYDD, ie, ti yn unig! Ti ydy'r Duw Goruchaf sy'n rheoli'r byd i gyd! |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/083.mp3
150
83