Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: ar y Gittith. I feibion Cora. Salm.0 Mor brydferth yw dy breswylfod, O ARGLWYDD y Lluoedd. |
| 2 |
| Yr wyf yn hiraethu, yn dyheu hyd at lewyg am gynteddau'r ARGLWYDD; y mae'r cyfan ohonof yn gweiddi'n llawen ar y Duw byw. |
| 3 |
| Cafodd hyd yn oed aderyn y to gartref, a'r wennol nyth iddi ei hun, lle mae'n magu ei chywion, wrth dy allorau di, O ARGLWYDD y Lluoedd, fy Mrenin a'm Duw. |
| 4 |
| Gwyn eu byd y rhai sy'n trigo yn dy du375?, yn canu mawl i ti'n wastadol. |
| 5 |
| Gwyn eu byd y rhai yr wyt ti'n noddfa iddynt, a ffordd y pererinion yn eu calon. |
| 6 |
| Wrth iddynt fynd trwy ddyffryn Baca fe'i cnt yn ffynnon; bydd y glaw cynnar yn ei orchuddio bendith. |
| 7 |
| nt o nerth i nerth, a bydd Duw y duwiau yn ymddangos yn Seion. |
| 8 |
| O ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd, clyw fy ngweddi; gwrando arnaf, O Dduw Jacob. Sela. |
| 9 |
| Edrych ar ein tarian, O Dduw; rho ffafr i'th eneiniog. |
| 10 |
| Gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil gartref; gwell sefyll wrth y drws yn nhu375? fy Nuw na thrigo ym mhebyll drygioni. |
| 11 |
| Oherwydd haul a tharian yw'r ARGLWYDD Dduw; rhydd ras ac anrhydedd. Nid atal yr ARGLWYDD unrhyw ddaioni oddi wrth y rhai sy'n rhodio'n gywir. |
| 12 |
| O ARGLWYDD y Lluoedd, gwyn ei fyd y sawl sy'n ymddiried ynot. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/084.mp3
150
84