×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 85

1
I'r arweinydd cerdd: Salm gan feibion Cora. [1] O ARGLWYDD, ti wedi bod yn garedig wrth dy dir, ac wedi rhoi llwyddiant i Jacob eto.
2
Ti wedi symud euogrwydd dy bobl, a maddau eu pechodau i gyd. Saib
3
Ti wedi tynnu dy lid yn ôl, a throi cefn ar dy wylltineb.
4
Tro ni'n ôl, O Dduw, ein hachubwr! Rho heibio dy ddicter tuag aton ni.
5
Wyt ti'n mynd i fod yn ddig gyda ni am byth? Wyt ti'n mynd i aros yn wyllt am genedlaethau?
6
Plîs, wnei di'n hadfywio ni unwaith eto, i dy bobl gael dathlu beth wnest ti!
7
O ARGLWYDD, dangos dy gariad ffyddlon i ni. Plîs achub ni!
8
Dw i'n mynd i wrando beth sydd gan Dduw i'w ddweud: Ydy wir! Mae'r ARGLWYDD yn addo heddwch i'r rhai sy'n ei ddilyn yn ffyddlon — ond rhaid iddyn nhw beidio troi'n ôl at eu ffolineb!
9
Mae e'n barod iawn i achub y rhai sy'n ei ddilyn e; wedyn bydd ei ysblander i'w weld yn ein tir eto.
10
Bydd cariad a gwirionedd yn dod at ei gilydd; bydd cyfiawnder a heddwch yn cusanu.
11
Bydd gwirionedd yn tarddu o'r tir, a chyfiawnder yn edrych i lawr o'r nefoedd.
12
Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi pethau da i ni; a bydd y tir yn rhoi ei gnydau.
13
Bydd cyfiawnder yn mynd o'i flaen ac yn paratoi'r ffordd iddo.
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau