×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 86

1
1 Gweddi. I Ddafydd.0 Tro dy glust ataf, ARGLWYDD, ac ateb fi, oherwydd tlawd ac anghenus ydwyf.
2
Arbed fy mywyd, oherwydd teyrngar wyf fi; gwared dy was sy'n ymddiried ynot.
3
Ti yw fy Nuw; bydd drugarog wrthyf, O Arglwydd, oherwydd arnat ti y gwaeddaf trwy'r dydd.
4
Llawenha enaid dy was, oherwydd atat ti, Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid.
5
Yr wyt ti, Arglwydd, yn dda a maddeugar, ac yn llawn trugaredd i bawb sy'n galw arnat.
6
Clyw, O ARGLWYDD, fy ngweddi, a gwrando ar fy ymbil.
7
Yn nydd fy nghyfyngder galwaf arnat, oherwydd yr wyt ti yn fy ateb.
8
Nid oes neb fel ti ymhlith y duwiau, O Arglwydd, ac nid oes gweithredoedd fel dy rai di.
9
Bydd yr holl genhedloedd a wnaethost yn dod ac yn ymgrymu o'th flaen, O Arglwydd, ac yn anrhydeddu dy enw.
10
Oherwydd yr wyt ti yn fawr ac yn gwneud rhyfeddodau; ti yn unig sydd Dduw.
11
O ARGLWYDD, dysg i mi dy ffordd, imi rodio yn dy wirionedd; rho imi galon unplyg i ofni dy enw.
12
Clodforaf di 'm holl galon, O Arglwydd fy Nuw, ac anrhydeddaf dy enw hyd byth.
13
Oherwydd mawr yw dy ffyddlondeb tuag ataf, a gwaredaist fy mywyd o Sheol isod.
14
O Dduw, cododd gwu375?r trahaus yn f'erbyn, ac y mae criw didostur yn ceisio fy mywyd, ac nid ydynt yn meddwl amdanat ti.
15
Ond yr wyt ti, O Arglwydd, yn Dduw trugarog a graslon, araf i ddigio, a llawn cariad a gwirionedd.
16
Tro ataf, a bydd drugarog, rho dy nerth i'th was, a gwared un o hil dy weision.
17
Rho imi arwydd o'th ddaioni, a bydded i'r rhai sy'n fy nghasu weld a chywilyddio, am i ti, ARGLWYDD, fy nghynorthwyo a'm cysuro.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau