×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 86

1
Gweddi. Salm Dafydd. [1] Gwranda, O ARGLWYDD, ac ateb fi! Dw i'n wan ac yn ddiamddiffyn.
2
Cadw fi'n saff. Dw i'n ffyddlon i ti! Achub dy was. Ti ydy fy Nuw a dw i'n dy drystio di.
3
Dangos drugaredd ata i, O ARGLWYDD! Dw i wedi bod yn gweiddi arnat ti'n ddi-baid.
4
Gwna dy was yn llawen eto! Dw i'n gweddïo'n daer arnat ti ARGLWYDD.
5
Rwyt ti, ARGLWYDD, yn dda ac yn maddau. Rwyt ti mor anhygoel o hael at y rhai sy'n galw arnat ti!
6
Gwranda ar fy ngweddi, O ARGLWYDD! Edrych! Dw i'n erfyn am drugaredd!
7
Dw i mewn trafferthion ac yn galw arnat, am mai ti sy'n gallu fy ateb i.
8
Does dim un o'r duwiau eraill yn debyg i ti, ARGLWYDD! Does neb arall yn gallu gwneud y pethau rwyt ti'n eu gwneud.
9
Bydd yr holl genhedloedd rwyt ti wedi eu creu yn dod ac yn plygu o dy flaen di, O ARGLWYDD! Byddan nhw'n anrhydeddu dy enw di,
10
am dy fod ti'n Dduw mawr ac yn gwneud pethau anhygoel! Ti ydy'r unig Dduw go iawn!
11
Dysga fi sut i fyw, O ARGLWYDD, i mi dy ddilyn di'n ffyddlon. Gwna fi'n benderfynol o d'addoli di'n iawn.
12
Bydda i'n dy addoli o waelod calon, O ARGLWYDD fy Nuw, ac yn anrhydeddu dy enw am byth.
13
Mae dy gariad tuag ata i mor fawr! Ti wedi fy achub i o ddyfnder Annwn.
14
O Dduw, mae yna bobl haerllug wedi troi yn fy erbyn i. Mae yna griw creulon am fy lladd i, Does dim bwys ganddyn nhw amdanat ti.
15
Ond rwyt ti, O ARGLWYDD, mor drugarog a charedig, rwyt mor amyneddgar! Mae dy haelioni a dy ffyddlondeb di yn anhygoel!
16
Tro ata i, a dangos drugaredd! Rho dy nerth i dy was, Achub blentyn dy gaethferch!
17
Dangos i mi ryw arwydd o dy ddaioni, er mwyn i'r rhai sy'n fy nghasáu i weld hynny a chael eu cywilyddio am dy fod ti, ARGLWYDD, wedi fy helpu i a'm cysuro.
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau