Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I feibion Cora. Salm. Cn.0 Ar fynyddoedd sanctaidd y sylfaenodd hi; |
| 2 |
| y mae'r ARGLWYDD yn caru pyrth Seion yn fwy na holl drigfannau Jacob. |
| 3 |
| Dywedir pethau gogoneddus amdanat ti, O ddinas Duw. Sela. |
| 4 |
| "Yr wyf yn enwi Rahab a Babilon ymysg y rhai sy'n fy nghydnabod; am Philistia, Tyrus ac Ethiopia fe ddywedir, 'Ganwyd hwy yno'." |
| 5 |
| Ac fe ddywedir am Seion, "Ganwyd hwn-a-hwn ynddi; y Goruchaf ei hun sy'n ei sefydlu hi." |
| 6 |
| Bydd yr ARGLWYDD, wrth restru'r bobl, yn ysgrifennu, "Ganwyd hwy yno." Sela. |
| 7 |
| Bydd cantorion a dawnswyr yn dweud, "Y mae fy holl darddiadau ynot ti." |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/087.mp3
150
87