Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Salm gan feibion Cora. Cân. [1] Mae ei sylfeini ar y mynyddoedd sanctaidd! |
| 2 |
| Mae'r ARGLWYDD yn caru dinas Seion fwy nag unrhyw fan arall yn nhir Jacob. |
| 3 |
| Mae pethau hyfryd yn cael eu dweud amdanat ti, O ddinas Duw. Saib |
| 4 |
| Wrth sôn am yr Aifft a Babilon wrth y rhai sy'n fy nabod i — Philistia, Tyrus, a dwyrain Affrica hefyd — dywedir, “Cafodd hwn a hwn ei eni yno.” |
| 5 |
| A dyma fydd yn cael ei ddweud am Seion: “Cafodd pob un o'r rhain eu geni yno! Mae'r Duw Goruchaf ei hun yn ei gwneud hi'n ddiogel!” |
| 6 |
| Bydd yr ARGLWYDD yn cofrestru'r cenhedloedd: “Cafodd hwn a hwn ei eni yno.” Saib |
| 7 |
| Bydd cantorion a dawnswyr yn dweud amdani: “Mae ffynhonnell pob bendith ynot ti!” |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/087.mp3
150
87