1
Cân. Salm gan feibion Cora. I'r arweinydd cerdd: ar “Mahalath Leanoth”. Mascîl gan Heman yr Esrachiad. [1] O ARGLWYDD, y Duw sy'n fy achub, dw i'n gweiddi am dy help bob dydd ac yn gweddïo arnat ti bob nos.
2
Plîs cymer sylw o'm gweddi, a gwranda arna i'n galw arnat ti.
3
Dw i mewn helynt dychrynllyd; yn wir, dw i bron marw.
4
Mae pobl yn fy ngweld i fel un sydd ar ei ffordd i'r bedd. Dyn cryf wedi colli ei nerth i gyd,
5
ac wedi ei adael i farw a'i daflu i fedd cyffredin gyda'r milwyr eraill sydd wedi eu lladd — y rhai wyt ti ddim yn eu cofio bellach, ac sydd ddim angen dy ofal bellach.
6
Ti wedi fy ngosod i ar waelod y Pwll, mewn tywyllwch dudew yn y dyfnder.
7
Mae dy ddig yn pwyso'n drwm arna i. Dw i'n boddi dan dy donnau di. Saib
8
Ti wedi gwneud i'm ffrindiau agos gadw draw; dw i'n ffiaidd yn eu golwg nhw. Dw i wedi fy nal ac yn methu dianc.
9
Mae fy llygaid yn wan gan flinder; O ARGLWYDD, dw i wedi galw arnat ti bob dydd; dw i'n estyn fy nwylo mewn gweddi atat ti.
10
Wyt ti'n gwneud gwyrthiau i'r rhai sydd wedi marw? Ydy'r meirw yn codi i dy foli di? Saib
11
Ydy'r rhai sydd yn y bedd yn sôn am dy gariad ffyddlon? Oes sôn am dy ffyddlondeb di yn Abadon?
12
Ydy'r rhai sy'n y lle tywyll yn gwybod am dy wyrthiau? Oes sôn am dy gyfiawnder ym myd angof?
13
Ond dw i wedi bod yn galw arnat ti am help, ARGLWYDD. Dw i'n gweddïo arnat ti bob bore.
14
Felly pam, O ARGLWYDD, wyt ti'n fy ngwrthod i? Pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?
15
Dw i wedi diodde a bron marw lawer gwaith ers yn ifanc; dw i wedi gorfod wynebu pethau ofnadwy, nes fy mod wedi fy mharlysu.
16
Mae dy lid wedi llifo drosta i; mae dy ddychryn wedi fy ninistrio.
17
Mae'r cwbl yn troelli o'm cwmpas fel llifogydd; maen nhw'n cau amdana i o bob cyfeiriad.
18
Ti wedi gwneud i ffrindiau a chymdogion gadw draw oddi wrtho i — Yr unig gwmni sydd gen i bellach ydy'r tywyllwch!
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023