|
| 1 |
|
| 1 Mascl. I Ethan yr Esrahead.0 Canaf byth am dy gariad, O ARGLWYDD, ac 'm genau mynegaf dy ffyddlondeb dros y cenedlaethau; |
|
| 2 |
|
| oherwydd y mae dy gariad wedi ei sefydlu dros byth, a'th ffyddlondeb mor sicr 'r nefoedd. |
|
| 3 |
|
| Dywedaist, "Gwneuthum gyfamod 'm hetholedig, a thyngu wrth Ddafydd fy ngwas, |
|
| 4 |
|
| 'Gwnaf dy had yn sefydlog am byth, a sicrhau dy orsedd dros y cenedlaethau.'" Sela. |
|
| 5 |
|
| Bydded i'r nefoedd foliannu dy ryfeddodau, O ARGLWYDD, a'th ffyddlondeb yng nghynulliad y rhai sanctaidd. |
|
| 6 |
|
| Oherwydd pwy yn y nefoedd a gymherir 'r ARGLWYDD? Pwy ymysg y duwiau sy'n debyg i'r ARGLWYDD, |
|
| 7 |
|
| yn Dduw a ofnir yng nghyngor y rhai sanctaidd, yn fawr ac ofnadwy goruwch pawb o'i amgylch? |
|
| 8 |
|
| O ARGLWYDD Dduw y lluoedd, pwy sydd nerthol fel tydi, O ARGLWYDD, gyda'th ffyddlondeb o'th amgylch? |
|
| 9 |
|
| Ti sy'n llywodraethu ymchwydd y mr; pan gyfyd ei donnau, yr wyt ti'n eu gostegu. |
|
| 10 |
|
| Ti a ddrylliodd Rahab yn gelain; gwasgeraist dy elynion nerth dy fraich. |
|
| 11 |
|
| Eiddot ti yw'r nefoedd, a'r ddaear hefyd; ti a seiliodd y byd a'r cyfan sydd ynddo. |
|
| 12 |
|
| Ti a greodd ogledd a de; y mae Tabor a Hermon yn moliannu dy enw. |
|
| 13 |
|
| Y mae gennyt ti fraich nerthol; y mae dy law yn gref, dy ddeheulaw wedi ei chodi. |
|
| 14 |
|
| Cyfiawnder a barn yw sylfaen dy orsedd; y mae cariad a gwirionedd yn mynd o'th flaen. |
|
| 15 |
|
| Gwyn eu byd y bobl sydd wedi dysgu dy glodfori, sy'n rhodio, ARGLWYDD, yng ngoleuni dy wyneb, |
|
| 16 |
|
| sy'n gorfoleddu bob amser yn dy enw, ac yn llawenhau yn dy gyfiawnder. |
|
| 17 |
|
| Oherwydd ti yw gogoniant eu nerth, a thrwy dy ffafr di y dyrchefir ein corn. |
|
| 18 |
|
| Oherwydd y mae ein tarian yn eiddo i'r ARGLWYDD, a'n brenin i Sanct Israel. |
|
| 19 |
|
| Gynt lleferaist mewn gweledigaeth wrth dy ffyddloniaid a dweud, "Gosodais goron ar un grymus, a dyrchafu un a ddewiswyd o blith y bobl. |
|
| 20 |
|
| Cefais Ddafydd, fy ngwas, a'i eneinio 'm holew sanctaidd; |
|
| 21 |
|
| bydd fy llaw yn gadarn gydag ef, a'm braich yn ei gryfhau. |
|
| 22 |
|
| Ni fydd gelyn yn drech nag ef, na'r drygionus yn ei ddarostwng. |
|
| 23 |
|
| Drylliaf ei elynion o'i flaen, a thrawaf y rhai sy'n ei gasu. |
|
| 24 |
|
| Bydd fy ffyddlondeb a'm cariad gydag ef, ac yn fy enw i y dyrchefir ei gorn. |
|
| 25 |
|
| Gosodaf ei law ar y mr, a'i ddeheulaw ar yr afonydd. |
|
| 26 |
|
| Bydd yntau'n galw arnaf, 'Fy nhad wyt ti, fy Nuw a chraig fy iachawdwriaeth.' |
|
| 27 |
|
| A gwnaf finnau ef yn gyntafanedig, yn uchaf o frenhinoedd y ddaear. |
|
| 28 |
|
| Cadwaf fy ffyddlondeb iddo hyd byth, a bydd fy nghyfamod ag ef yn sefydlog. |
|
| 29 |
|
| Rhof iddo linach am byth, a'i orsedd fel dyddiau'r nefoedd. |
|
| 30 |
|
| Os bydd ei feibion yn gadael fy nghyfraith, a heb rodio yn fy marnau, |
|
| 31 |
|
| os byddant yn torri fy ordeiniadau, a heb gadw fy ngorchmynion, |
|
| 32 |
|
| fe gosbaf eu pechodau gwialen, a'u camweddau fflangellau; |
|
| 33 |
|
| ond ni throf fy nghariad oddi wrtho, na phallu yn fy ffyddlondeb. |
|
| 34 |
|
| Ni thorraf fy nghyfamod, na newid gair a aeth o'm genau. |
|
| 35 |
|
| Unwaith am byth y tyngais i'm sancteiddrwydd, ac ni fyddaf yn twyllo Dafydd. |
|
| 36 |
|
| Fe barha ei linach am byth, a'i orsedd cyhyd 'r haul o'm blaen. |
|
| 37 |
|
| Bydd wedi ei sefydlu am byth fel y lleuad, yn dyst ffyddlon yn y nef." Sela. |
|
| 38 |
|
| Ond eto yr wyt wedi gwrthod, a throi heibio, a digio wrth dy eneiniog. |
|
| 39 |
|
| Yr wyt wedi dileu'r cyfamod 'th was, wedi halogi ei goron a'i thaflu i'r llawr. |
|
| 40 |
|
| Yr wyt wedi dryllio ei holl furiau, a gwneud ei geyrydd yn adfeilion. |
|
| 41 |
|
| Y mae pawb sy'n mynd heibio yn ei ysbeilio; aeth yn warth i'w gymdogion. |
|
| 42 |
|
| Dyrchefaist ddeheulaw ei wrthwynebwyr, a gwneud i'w holl elynion lawenhau. |
|
| 43 |
|
| Yn wir, troist yn l fin ei gleddyf, a pheidio 'i gynnal yn y frwydr. |
|
| 44 |
|
| Drylliaist ei deyrnwialen o'i law, a bwrw ei orsedd i'r llawr. |
|
| 45 |
|
| Yr wyt wedi byrhau dyddiau ei ieuenctid, ac wedi ei orchuddio chywilydd. Sela. |
|
| 46 |
|
| Am ba hyd, ARGLWYDD? A fyddi'n ymguddio am byth, a'th eiddigedd yn llosgi fel tn? |
|
| 47 |
|
| Cofia mor feidrol ydwyf fi; ai yn ofer y creaist yr holl bobloedd? |
|
| 48 |
|
| Pwy fydd byw heb weld marwolaeth? Pwy a arbed ei fywyd o afael Sheol? Sela. |
|
| 49 |
|
| O Arglwydd, ple mae dy gariad gynt, a dyngaist yn dy ffyddlondeb i Ddafydd? |
|
| 50 |
|
| Cofia, O Arglwydd, ddirmyg dy was, fel yr wyf yn cario yn fy mynwes sarhad y bobloedd, |
|
| 51 |
|
| fel y bu i'th elynion, ARGLWYDD, ddirmygu a gwawdio camre dy eneiniog. |
|
| 52 |
|
| Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD am byth! Amen ac Amen. |
|
|
|
|