×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 9

1
1 I'r Cyfarwyddwr: ar Muth-labben. Salm. I Ddafydd.0 Diolchaf i ti, ARGLWYDD, 'm holl galon, adroddaf am dy ryfeddodau.
2
Llawenhaf a gorfoleddaf ynot ti, canaf fawl i'th enw, y Goruchaf.
3
Pan dry fy ngelynion yn eu holau, baglant a threngi o'th flaen.
4
Gwnaethost yn deg mi yn fy achos, ac eistedd ar dy orsedd yn farnwr cyfiawn.
5
Ceryddaist y cenhedloedd a difetha'r drygionus, a dileaist eu henw am byth.
6
Darfu am y gelyn mewn adfeilion bythol; yr wyt wedi chwalu eu dinasoedd, a diflannodd y cof amdanynt.
7
Ond y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu am byth, ac wedi paratoi ei orsedd i farn.
8
Fe farna'r byd mewn cyfiawnder, a gwrando achos y bobloedd yn deg.
9
Bydded yr ARGLWYDD yn amddiffynfa i'r gorthrymedig, yn amddiffynfa yn amser cyfyngder,
10
fel y bydd i'r rhai sy'n cydnabod dy enw ymddiried ynot; oherwydd ni adewaist, ARGLWYDD, y rhai sy'n dy geisio.
11
Canwch fawl i'r ARGLWYDD sy'n trigo yn Seion, cyhoeddwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
12
Fe gofia'r dialydd gwaed amdanynt; nid yw'n anghofio gwaedd yr anghenus.
13
Bydd drugarog wrthyf, O ARGLWYDD, sy'n fy nyrchafu o byrth angau; edrych ar fy adfyd oddi ar law y rhai sy'n fy nghasu,
14
imi gael adrodd dy holl fawl a llawenhau yn dy waredigaeth ym mhyrth merch Seion.
15
Suddodd y cenhedloedd i'r pwll a wnaethant eu hunain, daliwyd eu traed yn y rhwyd yr oeddent hwy wedi ei chuddio.
16
Datguddiodd yr ARGLWYDD ei hun, gwnaeth farn; maglwyd y drygionus gan waith ei ddwylo'i hun. Higgaion. Sela.
17
Bydded i'r drygionus ddychwelyd i Sheol, a'r holl genhedloedd sy'n anghofio Duw.
18
Oherwydd nid anghofir y tlawd am byth, ac ni ddryllir gobaith yr anghenus yn barhaus.
19
Cyfod, ARGLWYDD; na threched meidrolion, ond doed y cenhedloedd i farn o'th flaen.
20
Rho arswyd ynddynt, ARGLWYDD, a bydded i'r cenhedloedd wybod mai meidrol ydynt. Sela.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau