×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 90

1
1 Gweddi. I Moses, gu373?r Duw.0 Arglwydd, buost yn amddiffynfa i ni ymhob cenhedlaeth.
2
Cyn geni'r mynyddoedd, a chyn esgor ar y ddaear a'r byd, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ti sydd Dduw.
3
Yr wyt yn troi pobl yn l i'r llwch, ac yn dweud, "Trowch yn l, chwi feidrolion."
4
Oherwydd y mae mil o flynyddoedd yn dy olwg fel doe sydd wedi mynd heibio, ac fel gwyliadwriaeth yn y nos.
5
Yr wyt yn eu sgubo ymaith fel breuddwyd; y maent fel gwellt yn adfywio yn y bore
6
yn tyfu ac yn adfywio yn y bore, ond erbyn yr hwyr yn gwywo ac yn crino.
7
Oherwydd yr ydym ni yn darfod gan dy ddig, ac wedi'n brawychu gan dy gynddaredd.
8
Gosodaist ein camweddau o'th flaen, ein pechodau dirgel yng ngoleuni dy wyneb.
9
Y mae ein holl ddyddiau'n mynd heibio dan dy ddig, a'n blynyddoedd yn darfod fel ochenaid.
10
Deng mlynedd a thrigain yw blynyddoedd ein heinioes, neu efallai bedwar ugain trwy gryfder, ond y mae eu hyd yn faich ac yn flinder; nt heibio yn fuan, ac ehedwn ymaith.
11
Pwy sy'n gwybod grym dy ddicter, a'th ddigofaint, fel y rhai sy'n dy ofni?
12
Felly dysg ni i gyfrif ein dyddiau, inni gael calon ddoeth.
13
Dychwel, O ARGLWYDD. Am ba hyd? Trugarha wrth dy weision.
14
Digona ni yn y bore 'th gariad, inni gael gorfoleddu a llawenhau ein holl ddyddiau.
15
Rho inni lawenydd gynifer o ddyddiau ag y blinaist ni, gynifer o flynyddoedd ag y gwelsom ddrygfyd.
16
Bydded dy weithredoedd yn amlwg i'th weision, a'th ogoniant i'w plant.
17
Bydded trugaredd yr Arglwydd ein Duw arnom; llwydda waith ein dwylo inni, llwydda waith ein dwylo.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau