×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 91

1
Y mae'r sawl sy'n byw yn lloches y Goruchaf, ac yn aros yng nghysgod yr Hollalluog,
2
yn dweud wrth yr ARGLWYDD, "Fy noddfa a'm caer, fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo."
3
Oherwydd bydd ef yn dy waredu o fagl heliwr, ac oddi wrth bla difaol;
4
bydd yn cysgodi drosot 'i esgyll, a chei nodded dan ei adenydd; bydd ei wirionedd yn darian a bwcled.
5
Ni fyddi'n ofni rhag dychryn y nos, na rhag saeth yn hedfan yn y dydd,
6
rhag pla sy'n tramwyo yn y tywyllwch, na rhag dinistr sy'n difetha ganol dydd.
7
Er i fil syrthio wrth dy ochr, a deng mil ar dy ddeheulaw, eto ni chyffyrddir thi.
8
Ni fyddi ond yn edrych 'th lygaid ac yn gweld tl y drygionus.
9
Ond i ti, bydd yr ARGLWYDD yn noddfa; gwnaethost y Goruchaf yn amddiffynfa;
10
ni ddigwydd niwed i ti, ac ni ddaw pla yn agos i'th babell.
11
Oherwydd rhydd orchymyn i'w angylion i'th gadw yn dy holl ffyrdd;
12
byddant yn dy godi ar eu dwylo rhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.
13
Byddi'n troedio ar y llew a'r asb, ac yn sathru'r llew ifanc a'r sarff.
14
"Am iddo lynu wrthyf, fe'i gwaredaf; fe'i diogelaf am ei fod yn adnabod fy enw.
15
Pan fydd yn galw arnaf, fe'i hatebaf; byddaf fi gydag ef mewn cyfyngder, gwaredaf ef a'i anrhydeddu.
16
Digonaf ef hir ddyddiau, a gwnaf iddo fwynhau fy iachawdwriaeth."
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau