Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Bydd y sawl mae'r Duw Goruchaf yn ei amddiffyn yn aros yn saff dan gysgod yr Hollalluog. |
| 2 |
| Dywedais, “ARGLWYDD, rwyt ti'n gaer ddiogel, yn lle hollol saff i mi fynd. Ti ydy fy Nuw i, yr un dw i'n ei drystio.” |
| 3 |
| Bydd Duw yn dy achub di o drap yr heliwr, a rhag y pla marwol. |
| 4 |
| Bydd e'n rhoi ei adain drosot ti, a byddi'n saff o dan blu ei adenydd. Mae'r ffaith fod Duw yn dweud y gwir yn darian sy'n dy amddiffyn di. |
| 5 |
| Paid bod ag ofn dim sy'n dy ddychryn yn y nos, na'r saeth sy'n hedfan yn y dydd; |
| 6 |
| yr haint sy'n llechu yn y tywyllwch, na'r dinistr sy'n taro'n sydyn ganol dydd. |
| 7 |
| Gall mil o ddynion syrthio ar dy law chwith, a deg mil ar y dde, ond fyddi di ddim yn cael dy gyffwrdd. |
| 8 |
| Byddi'n cael gweld drosot ti dy hun — byddi'n gweld y rhai drwg yn cael eu cosbi. |
| 9 |
| Wyt, rwyt ti'n lle saff i mi guddio. ARGLWYDD! Gad i'r Duw Goruchaf fod yn hafan ddiogel i ti, |
| 10 |
| a fyddi di ddim yn cael unrhyw niwed. Fydd dim haint yn dod yn agos i dy gartre di. |
| 11 |
| Achos bydd e'n gorchymyn i'w angylion dy amddiffyn di ble bynnag rwyt ti'n mynd. |
| 12 |
| Byddan nhw'n dy ddal yn eu breichiau fel na fyddi'n taro dy droed ar garreg. |
| 13 |
| Byddi di'n sathru'r llew a'r cobra dan draed; fydd llewod ifanc a nadroedd ddim yn beryg i ti. |
| 14 |
| “Dw i'n mynd i gadw'r un sy'n ffyddlon i mi yn saff,” meddai'r ARGLWYDD; “bydda i'n amddiffyn yr un sy'n fy nabod i. |
| 15 |
| Pan fydd e'n galw arna i, bydda i'n ateb. Bydda i gydag e drwy bob argyfwng. Bydda i'n ei achub e ac yn ei anrhydeddu. |
| 16 |
| Bydd e'n cael byw i oedran teg, a mwynhau bywyd, am fy mod wedi ei achub.” |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/091.mp3
150
91