Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 Salm. Cn. Ar gyfer y Saboth.0 Da yw moliannu'r ARGLWYDD, a chanu mawl i'th enw di, y Goruchaf, |
| 2 |
| a chyhoeddi dy gariad yn y bore a'th ffyddlondeb bob nos, |
| 3 |
| gyda'r dectant a'r nabl a chyda chordiau'r delyn. |
| 4 |
| Oherwydd yr wyt ti, O ARGLWYDD, wedi fy llawenychu 'th waith; yr wyf yn gorfoleddu yng ngweithgarwch dy ddwylo. |
| 5 |
| Mor fawr yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD, a dwfn iawn dy feddyliau! |
| 6 |
| Un dwl yw'r sawl sydd heb wybod, a ffu373?l yw'r un sydd heb ddeall hyn: |
| 7 |
| er i'r annuwiol dyfu fel glaswellt ac i'r holl wneuthurwyr drygioni lwyddo, eu bod i'w dinistrio am byth, |
| 8 |
| ond dy fod ti, ARGLWYDD, yn dragwyddol ddyrchafedig. |
| 9 |
| Oherwydd wele, dy elynion, ARGLWYDD, wele, dy elynion a ddifethir, a'r holl wneuthurwyr drygioni a wasgerir. |
| 10 |
| Codaist i fyny fy nghorn fel corn ych, ac eneiniaist fi ag olew croyw. |
| 11 |
| Ymhyfrydodd fy llygaid yng nghwymp fy ngelynion, a'm clustiau wrth glywed am y rhai drygionus a gododd yn f'erbyn. |
| 12 |
| Y mae'r cyfiawn yn blodeuo fel palmwydd, ac yn tyfu fel cedrwydd Lebanon. |
| 13 |
| Y maent wedi eu plannu yn nhu375?'r ARGLWYDD, ac yn blodeuo yng nghynteddau ein Duw. |
| 14 |
| Rhnt ffrwyth hyd yn oed mewn henaint, a pharhnt yn wyrdd ac iraidd. |
| 15 |
| Cyhoeddant fod yr ARGLWYDD yn uniawn, ac am fy nghraig, nad oes anghyfiawnder ynddo. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/092.mp3
150
92