Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Salm. Cân ar gyfer y dydd saboth. [1] Mae'n beth da diolch i'r ARGLWYDD, a chanu mawl i dy enw di, y Duw Goruchaf. |
| 2 |
| Canu yn y bore am dy gariad, a chyda'r nos am dy ffyddlondeb, |
| 3 |
| i gyfeiliant offeryn dectant a nabl a thannau'r delyn. |
| 4 |
| Ti'n fy ngwneud i mor hapus, O ARGLWYDD; a dw i'n canu'n uchel o achos y cwbl rwyt ti'n wneud. |
| 5 |
| Ti'n gwneud pethau mawr, O ARGLWYDD! Mae dy feddyliau di mor ddwfn! |
| 6 |
| Dim ond twpsyn sydd ddim yn gweld hynny; dim ond ffŵl fyddai ddim yn deall! |
| 7 |
| Mae pobl ddrwg yn llwyddo — ond maen nhw fel glaswellt — Er bod y rhai sy'n gwneud drwg fel petaen nhw'n blodeuo, byddan nhw'n cael eu dinistrio am byth! |
| 8 |
| Ond ti ydy'r Un sydd uwchlaw popeth, a hynny am byth, O ARGLWYDD. |
| 9 |
| Bydd dy elynion di, ARGLWYDD, bydd dy elynion di yn cael eu dinistrio! Bydd pawb sy'n gwneud drygioni yn cael eu gwasgaru! |
| 10 |
| Ti wedi fy ngwneud i'n gryf fel ych gwyllt; ti wedi fy eneinio i ag olew iraidd. |
| 11 |
| Bydda i'n cael gweld y gelynion sy'n fy ngwylio yn cael eu trechu; a chlywed y rhai drwg sy'n ymosod arna i yn chwalu. |
| 12 |
| Ond bydd y rhai cyfiawn yn blodeuo fel palmwydd; ac yn tyfu'n gryf fel coed cedrwydd yn Libanus. |
| 13 |
| Maen nhw wedi eu plannu yn nheml yr ARGLWYDD, ac yn blodeuo yn yr iard sydd yno. |
| 14 |
| Byddan nhw'n dal i roi ffrwyth pan fyddan nhw'n hen; byddan nhw'n dal yn ffres ac yn llawn sudd. |
| 15 |
| Maen nhw'n cyhoeddi fod yr ARGLWYDD yn gyfiawn — mae e'n graig saff i mi, a does dim anghyfiawnder yn agos ato. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/092.mp3
150
92