×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 93

1
Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu! Mae wedi ei arwisgo'n hardd. Mae'r ARGLWYDD wedi ei arwisgo, a'i gryfder fel gwregys am ei ganol. Mae'r ddaear yn saff, a does dim modd ei symud!
2
Cest dy orseddu'n frenin amser maith yn ôl; ti wedi bodoli bob amser!
3
Roedd y tonnau'n codi'n uchel, O ARGLWYDD, roedd sŵn y tonnau fel taranau, sŵn y tonnau trymion yn torri.
4
Ond roedd yr ARGLWYDD, sydd yn uwch na'r cwbl, yn gryfach na sŵn y dyfroedd mawr, ac yn gryfach na thonnau mawr y môr.
5
Mae dy orchmynion di yn hollol sicr. Sancteiddrwydd sy'n addurno dy dŷ, O ARGLWYDD, a hynny am byth!
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau