×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 94

1
O ARGLWYDD, Dduw dial, Dduw dial, ymddangos.
2
Cyfod, O farnwr y ddaear, rho eu haeddiant i'r balch.
3
Am ba hyd y bydd y drygionus, ARGLWYDD, y bydd y drygionus yn gorfoleddu?
4
Y maent yn tywallt eu parabl trahaus; y mae'r holl wneuthurwyr drygioni'n ymfalcho.
5
Y maent yn sigo dy bobl, O ARGLWYDD, ac yn poenydio dy etifeddiaeth.
6
Lladdant y weddw a'r estron, a llofruddio'r amddifad,
7
a dweud, "Nid yw'r ARGLWYDD yn gweld, ac nid yw Duw Jacob yn sylwi."
8
Deallwch hyn, chwi'r dylaf o bobl! Ffyliaid, pa bryd y byddwch ddoeth?
9
Onid yw'r un a blannodd glust yn clywed, a'r un a luniodd lygad yn gweld?
10
Onid oes gan yr un sy'n disgyblu cenhedloedd gerydd, a'r un sy'n dysgu pobl wybodaeth?
11
Y mae'r ARGLWYDD yn gwybod meddyliau pobl, mai gwynt ydynt.
12
Gwyn ei fyd y sawl a ddisgybli, O ARGLWYDD, ac a ddysgi allan o'th gyfraith,
13
i roi iddo lonyddwch rhag dyddiau adfyd, nes agor pwll i'r drygionus.
14
Oherwydd nid yw'r ARGLWYDD yn gwrthod ei bobl, nac yn gadael ei etifeddiaeth;
15
oherwydd dychwel barn at y rhai cyfiawn, a bydd yr holl rai uniawn yn ei dilyn.
16
Pwy a saif drosof yn erbyn y drygionus, a sefyll o'm plaid yn erbyn gwneuthurwyr drygioni?
17
Oni bai i'r ARGLWYDD fy nghynorthwyo byddwn yn fuan wedi mynd i dir distawrwydd.
18
Pan oeddwn yn meddwl bod fy nhroed yn llithro, yr oedd dy ffyddlondeb di, O ARGLWYDD, yn fy nghynnal.
19
Er bod pryderon fy nghalon yn niferus, y mae dy gysuron di'n fy llawenhau.
20
A fydd cynghrair rhyngot ti a llywodraeth distryw, sy'n cynllunio niwed trwy gyfraith?
21
Cytunant 'i gilydd am fywyd y cyfiawn, a chondemnio'r dieuog i farw.
22
Ond y mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn i mi, a'm Duw yn graig i'm llochesu.
23
Daw 'u camweddau eu hunain yn l arnynt, ac fe'u diddyma am eu drygioni. Bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn eu diddymu.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau