|
| 1 |
|
| O Dduw sy'n dial pob cam! O ARGLWYDD! O Dduw sy'n dial pob cam, disgleiria! |
|
| 2 |
|
| Cod ar dy draed, Farnwr y ddaear, a rhoi beth maen nhw'n haeddu i'r rhai balch! |
|
| 3 |
|
| Am faint mwy mae'r rhai drwg, O ARGLWYDD — am faint mwy mae'r rhai drwg i gael dathlu? |
|
| 4 |
|
| Maen nhw'n chwydu eu geiriau balch wrth frolio eu hunain. |
|
| 5 |
|
| Maen nhw'n sathru dy bobl dan draed, O ARGLWYDD, ac yn cam-drin dy etifeddiaeth. |
|
| 6 |
|
| Mae'n nhw'n lladd y gweddwon a'r mewnfudwyr, ac yn llofruddio'r plant amddifad. |
|
| 7 |
|
| Maen nhw'n meddwl, “Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gweld, dydy Duw Jacob yn cymryd dim sylw.” |
|
| 8 |
|
| Chi bobl dwp, mae'n bryd i chi ddeall! Chi ffyliaid, pryd ydych chi'n mynd i gallio? |
|
| 9 |
|
| Ydy'r un roddodd siâp i'r glust ddim yn clywed? Ydy'r un wnaeth greu y llygad ddim yn gweld? |
|
| 10 |
|
| Ydy'r un sy'n disgyblu'r cenhedloedd ddim yn cosbi? — Fe ydy'r un sy'n dysgu gwersi i'r ddynoliaeth! |
|
| 11 |
|
| Mae'r ARGLWYDD yn gwybod fod cynlluniau dynol yn wastraff amser, fel tarth yn diflannu! |
|
| 12 |
|
| Mae'r un sy'n cael ei ddisgyblu gen ti wedi ei fendithio'n fawr, ARGLWYDD; yr un rwyt ti'n dysgu dy gyfraith iddo. |
|
| 13 |
|
| Mae'n dawel ei feddwl pan mae pethau'n anodd. Mae'n gwybod y bydd y rhai drwg yn syrthio i dwll. |
|
| 14 |
|
| Fydd yr ARGLWYDD ddim yn siomi ei bobl. Fydd e ddim yn troi cefn ar ei etifeddiaeth. |
|
| 15 |
|
| Cyfiawnder fydd yn cario'r dydd, a'r rhai sy'n byw'n gywir yn ei ddilyn. |
|
| 16 |
|
| Oes rhywun am ochri gyda fi yn erbyn y rhai drwg? Oes rhywun am sefyll hefo fi yn erbyn pobl ddrwg? |
|
| 17 |
|
| Na, byddai ar ben arna i oni bai fod yr ARGLWYDD wedi fy helpu! |
|
| 18 |
|
| Pan oeddwn i'n dweud, “Dw i'n llithro! Mae ar ben arna i!” roedd dy ffyddlondeb di, O ARGLWYDD, yn fy nghynnal. |
|
| 19 |
|
| Pan oeddwn i'n poeni am bob math o bethau, roedd dy gefnogaeth di yn fy ngwneud i'n llawen. |
|
| 20 |
|
| Wyt ti'n gallu partneru gyda llywodraeth anghyfiawn sy'n achosi dioddefaint trwy ei deddfau? |
|
| 21 |
|
| Maen nhw'n casglu at ei gilydd yn erbyn y cyfiawn; ac yn condemnio pobl ddiniwed i farwolaeth. |
|
| 22 |
|
| Ond mae'r ARGLWYDD yn gaer ddiogel i mi; mae fy Nuw yn graig lle dw i'n hollol saff. |
|
| 23 |
|
| Bydd e'n talu'n ôl iddyn nhw am eu drygioni! Bydd e'n defnyddio eu drygioni eu hunain i'w dinistrio! Bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn eu dinistrio nhw! |
|
|
|
|