×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 95

1
Dewch, canwn yn llawen i'r ARGLWYDD, rhown floedd o orfoledd i graig ein hiachawdwriaeth.
2
Down i'w bresenoldeb diolch, gorfoleddwn ynddo chaneuon mawl.
3
Oherwydd Duw mawr yw'r ARGLWYDD, a brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.
4
Yn ei law ef y mae dyfnderau'r ddaear, ac eiddo ef yw uchelderau'r mynyddoedd.
5
Eiddo ef yw'r mr, ac ef a'i gwnaeth; ei ddwylo ef a greodd y sychdir.
6
Dewch, addolwn ac ymgrymwn, plygwn ein gliniau gerbron yr ARGLWYDD a'n gwnaeth.
7
Oherwydd ef yw ein Duw, a ninnau'n bobl iddo a defaid ei borfa; heddiw cewch wybod ei rym, os gwrandewch ar ei lais.
8
Peidiwch chaledu'ch calonnau, fel yn Meriba, fel ar ddiwrnod Massa yn yr anialwch,
9
pan fu i'ch hynafiaid fy herio a'm profi, er iddynt weld fy ngwaith.
10
Am ddeugain mlynedd y ffieiddiais y genhedlaeth honno, a dweud, "Pobl 'u calonnau'n cyfeiliorni ydynt, ac nid ydynt yn gwybod fy ffyrdd."
11
Felly tyngais yn fy nig na chaent ddyfod i'm gorffwysfa.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau