Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Dewch, gadewch i ni ganu'n llawen i'r ARGLWYDD, a gweiddi'n mawl i'r Graig sy'n ein hachub! |
| 2 |
| Gadewch i ni fynd ato yn llawn diolch; gweiddi'n uchel a chanu mawl iddo! |
| 3 |
| Achos yr ARGLWYDD ydy'r Duw mawr; y Brenin mawr sy'n uwch na'r ‛duwiau‛ i gyd. |
| 4 |
| Mae mannau dyfna'r ddaear yn ei ddwylo, a chopaon y mynyddoedd hefyd! |
| 5 |
| Fe sydd piau'r môr, am mai fe wnaeth ei greu; a'r tir hefyd, gan mai ei ddwylo fe wnaeth ei siapio. |
| 6 |
| Dewch, gadewch i ni ei addoli ac ymgrymu iddo; mynd ar ein gliniau o flaen yr ARGLWYDD ein Crëwr. |
| 7 |
| Fe ydy'n Duw ni, a ni ydy ei bobl e; y defaid mae'n gofalu amdanyn nhw. O na fyddech chi'n gwrando arno heddiw! |
| 8 |
| “Peidiwch bod yn ystyfnig fel yn Meriba, neu ar y diwrnod hwnnw yn Massa, yn yr anialwch. |
| 9 |
| Yno roedd eich hynafiaid wedi herio fy awdurdod, a phrofi fy amynedd, er eu bod wedi gweld beth wnes i! |
| 10 |
| Am bedwar deg mlynedd ron i'n eu ffieiddio nhw: ‘Maen nhw'n bobl hollol anwadal,’ meddwn i; ‘dyn nhw ddim eisiau fy nilyn i.’ |
| 11 |
| Felly digiais, a dweud ar lw, ‘Chân nhw byth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi!’” |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/095.mp3
150
95