Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD. Y ddaear gyfan, canwch i'r ARGLWYDD! |
| 2 |
| Canwch i'r ARGLWYDD! Canmolwch ei enw, a dweud bob dydd sut mae e'n achub. |
| 3 |
| Dwedwch wrth y cenhedloedd mor wych ydy e; wrth yr holl bobloedd am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud. |
| 4 |
| Mae'r ARGLWYDD yn Dduw mawr ac yn haeddu ei foli! Mae'n haeddu ei barchu fwy na'r ‛duwiau‛ eraill i gyd. |
| 5 |
| Eilunod diwerth ydy duwiau'r holl bobloedd, ond yr ARGLWYDD wnaeth greu y nefoedd! |
| 6 |
| Mae ei ysblander a'i urddas yn amlwg; mae ei gryfder a'i harddwch yn ei deml. |
| 7 |
| Dewch bobl y cenhedloedd! Cyhoeddwch! Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy'r ARGLWYDD! |
| 8 |
| Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da! Dewch i'w deml i gyflwyno rhodd iddo! |
| 9 |
| Plygwch i addoli'r ARGLWYDD sydd mor hardd yn ei gysegr! Crynwch o'i flaen, bawb drwy'r byd! |
| 10 |
| Dwedwch ymysg y cenhedloedd, “Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu!” Felly mae'r ddaear yn saff, does dim modd ei symud. Bydd e'n barnu'r byd yn deg. |
| 11 |
| Boed i'r nefoedd a'r ddaear ddathlu'n llawen! Boed i'r môr a phopeth sydd ynddo weiddi! |
| 12 |
| Boed i'r caeau a'u cnydau ddathlu! Bydd holl goed y goedwig yn siffrwd yn llawen |
| 13 |
| o flaen yr ARGLWYDD, am ei fod yn dod — mae'n dod i roi trefn ar y ddaear! Bydd yn barnu'r byd yn hollol deg, a'r bobloedd i gyd ar sail beth sy'n wir. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/096.mp3
150
96