×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 97

1
Y mae'r ARGLWYDD yn frenin; gorfoledded y ddaear, bydded ynysoedd lawer yn llawen.
2
Y mae cymylau a thywyllwch o'i amgylch, cyfiawnder a barn yn sylfaen i'w orsedd.
3
Y mae tn yn mynd o'i flaen, ac yn llosgi ei elynion oddi amgylch.
4
Y mae ei fellt yn goleuo'r byd, a'r ddaear yn gweld ac yn crynu.
5
Y mae'r mynyddoedd yn toddi fel cwyr o flaen yr ARGLWYDD, o flaen Arglwydd yr holl ddaear.
6
Y mae'r nefoedd yn cyhoeddi ei gyfiawnder, a'r holl bobloedd yn gweld ei ogoniant.
7
Bydded cywilydd ar yr holl addolwyr delwau sy'n ymffrostio mewn eilunod; ymgrymwch iddo ef, yr holl dduwiau.
8
Clywodd Seion a llawenhau, ac yr oedd trefi Jwda yn gorfoleddu o achos dy farnedigaethau, O ARGLWYDD.
9
Oherwydd yr wyt ti, ARGLWYDD, yn oruchaf dros yr holl ddaear; yr wyt wedi dy ddyrchafu'n uwch o lawer na'r holl dduwiau.
10
Y mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n casu drygioni, y mae'n cadw bywydau ei ffyddloniaid, ac yn eu gwaredu o ddwylo'r drygionus.
11
Heuwyd goleuni ar y cyfiawn, a llawenydd ar yr uniawn o galon.
12
Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, rai cyfiawn, a moliannwch ei enw sanctaidd.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau