Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu! Gall y ddaear ddathlu, a'r ynysoedd i gyd lawenhau! |
| 2 |
| Mae cwmwl trwchus o'i gwmpas; a'i orsedd wedi ei sylfaenu ar degwch a chyfiawnder. |
| 3 |
| Mae tân yn mynd allan o'i flaen, ac yn llosgi ei elynion ym mhobman. |
| 4 |
| Mae ei fellt yn goleuo'r byd; a'r ddaear yn gwingo wrth ei weld. |
| 5 |
| Mae'r mynyddoedd yn toddi fel cwyr o flaen yr ARGLWYDD, o flaen Meistr y ddaear gyfan. |
| 6 |
| Mae'r nefoedd yn cyhoeddi ei fod yn gyfiawn, a'r bobloedd i gyd yn gweld ei ysblander. |
| 7 |
| Mae'r rhai sy'n addoli eilun-dduwiau yn cywilyddio — y rhai oedd mor falch o'u delwau diwerth. Mae'r ‛duwiau‛ i gyd yn plygu o'i flaen. |
| 8 |
| Roedd Seion yn hapus pan glywodd hyn, ac roedd pentrefi Jwda'n dathlu am dy fod ti'n barnu'n deg, O ARGLWYDD. |
| 9 |
| Achos rwyt ti, ARGLWYDD, yn Dduw dros yr holl fyd; rwyt ti'n llawer gwell na'r holl ‛dduwiau‛ eraill i gyd. |
| 10 |
| Mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n casáu drygioni. Mae e'n amddiffyn y rhai sy'n ffyddlon iddo, ac yn eu hachub nhw o afael pobl ddrwg. |
| 11 |
| Mae golau'n disgleirio ar y rhai sy'n byw'n gywir, a llawenydd ar y rhai sy'n onest. |
| 12 |
| Chi rai cyfiawn, byddwch yn llawen yn yr ARGLWYDD, a'i foli wrth gofio mor sanctaidd ydy e! |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/097.mp3
150
97