×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 98

1
Salm [1] Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD, am ei fod wedi gwneud pethau anhygoel! Mae ei fraich gref, wedi ennill y fuddugoliaeth iddo.
2
Mae'r ARGLWYDD wedi dangos ei allu i achub! Mae wedi dangos i'r cenhedloedd ei fod yn Dduw cyfiawn.
3
Mae wedi cofio ei gariad a'i ffyddlondeb i bobl Israel; ac mae pawb drwy'r byd i gyd wedi gweld Duw yn achub.
4
Dewch, bawb drwy'r byd i gyd, gwaeddwch yn uchel i'r ARGLWYDD! Gweiddi'n llawen, a chanu mawl iddo!
5
Canwch fawl ar y delyn i'r ARGLWYDD; canwch gân hyfryd i gyfeiliant y delyn!
6
Seiniwch yr utgyrn a chwythu'r corn hwrdd. Dewch, bawb drwy'r byd i gyd, gwaeddwch yn uchel i'r ARGLWYDD, y Brenin!
7
Boed i'r môr a phopeth sydd ynddo weiddi; a'r byd hefyd, a phawb sy'n byw ynddo.
8
Boed i'r afonydd guro dwylo, ac i'r mynyddoedd ganu'n llawen gyda'i gilydd
9
o flaen yr ARGLWYDD! Achos mae e'n dod i roi trefn ar y ddaear! Bydd e'n barnu'r byd yn hollol deg, a'r bobloedd yn gwbl gyfiawn.
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau