×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 99

1
Y mae'r ARGLWYDD yn frenin, cryna'r bobloedd; y mae wedi ei orseddu uwch y cerwbiaid, ysgydwa'r ddaear.
2
Y mae'r ARGLWYDD yn fawr yn Seion, y mae'n ddyrchafedig uwch yr holl bobloedd.
3
Bydded iddynt foli dy enw mawr ac ofnadwy sanctaidd yw ef.
4
Un cryf sydd frenin; y mae'n caru cyfiawnder. Ti sydd wedi sefydlu uniondeb; gwnaethost farn a chyfiawnder yn Jacob.
5
Dyrchafwch yr ARGLWYDD ein Duw; ymgrymwch o flaen ei droedfainc sanctaidd yw ef.
6
Yr oedd Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid, a Samuel ymhlith y rhai a alwodd ar ei enw; galwasant ar yr ARGLWYDD, ac atebodd hwy.
7
Llefarodd wrthynt mewn colofn gwmwl; cadwasant ei dystiolaethau a'r ddeddf a roddodd iddynt.
8
O ARGLWYDD, ein Duw, atebaist hwy; Duw yn maddau fuost iddynt, ond yn dial eu camweddau.
9
Dyrchafwch yr ARGLWYDD ein Duw, ymgrymwch yn ei fynydd sanctaidd sanctaidd yw'r ARGLWYDD ein Duw.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau