×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 99

1
Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu, felly dylai'r gwledydd grynu! Boed i'r ddaear gyfan grynu o flaen yr un sydd wedi ei orseddu uwch ben y ceriwbiaid!
2
Yr ARGLWYDD ydy'r Duw mawr yn Seion; yr un sy'n rheoli'r holl bobloedd.
3
Boed i bawb dy addoli di — y Duw mawr, rhyfeddol! Ti ydy'r Duw sanctaidd!
4
Ti ydy'r brenin cryf sy'n caru cyfiawnder! Ti ydy'r un sydd wedi dangos beth ydy tegwch, ac yn hybu cyfiawnder a chwarae teg yn Jacob.
5
Addolwch yr ARGLWYDD ein Duw! Ymgrymwch i lawr wrth ei stôl droed! Mae e'n sanctaidd!
6
Roedd Moses, ac Aaron ei offeiriad, a Samuel yn galw ar ei enw — Roedden nhw'n galw ar yr ARGLWYDD, ac roedd e'n ateb.
7
Siaradodd gyda nhw o'r golofn o niwl. Roedden nhw'n ufudd i'w orchmynion, a'r rheolau roddodd iddyn nhw.
8
O ARGLWYDD ein Duw, roeddet ti'n eu hateb nhw. Roeddet ti'n Dduw oedd yn barod i faddau iddyn nhw, ond roeddet ti hefyd yn eu galw i gyfrif am eu drygioni.
9
Addolwch yr ARGLWYDD ein Duw! Ymgrymwch i lawr ar ei fynydd cysegredig, achos mae'r ARGLWYDD ein Duw yn sanctaidd!
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau