Beibl William Morgan 1955
|
| 1 |
| Dyma yn awr enwau meibion Israel, y rhai a ddaethant i'r Aifft: gyda Jacob y daethant, bob un a'i deulu. |
| 2 |
| Reuben, Simeon, Lefi, a Jwda, |
| 3 |
| Issachar, Sabulon, a Benjamin, |
| 4 |
| Dan, a Nafftali, Gad, ac Aser. |
| 5 |
| A'r holl eneidiau a ddaethant allan o gorff Jacob oedd ddeng enaid a thrigain: a Joseff oedd yn yr Aifft. |
| 6 |
| A Joseff a fu farw, a'i holl frodyr, a'r holl genhedlaeth honno. |
| 7 |
| A phlant Israel a hiliasant ac a gynyddasant, amlhasant hefyd, a chryfhasant yn ddirfawr odiaeth; a'r wlad a lanwyd ohonynt. |
| 8 |
| Yna y cyfododd brenin newydd yn yr Aifft, yr hwn nid adnabuasai mo Joseff. |
| 9 |
| Ac efe a ddywedodd wrth ei bobl, Wele bobl plant Israel yn amlach, ac yn gryfach, na nyni. |
| 10 |
| Deuwch, gwnawn yn gall â hwynt; rhag amlhau ohonynt, a bod, pan ddigwyddo rhyfel, ymgysylltu ohonynt â'n caseion, a rhyfela i'n herbyn, a myned i fyny o'r wlad. |
| 11 |
| Am hynny y gosodasant arnynt feistriaid gwaith, i'w gorthrymu â'u beichiau; a hwy a adeiladasant i Pharo ddinasoedd trysorau, sef Pithom a Raamses. |
| 12 |
| Ond fel y gorthryment hwynt, felly yr amlhaent, ac y cynyddent: a drwg oedd ganddynt oherwydd plant Israel. |
| 13 |
| A'r Eifftiaid a wnaeth i blant Israel wasanaethu yn galed. |
| 14 |
| A gwnaethant eu heinioes hwynt yn chwerw trwy'r gwasanaeth caled, mewn clai, ac mewn priddfaen, ac ym mhob gwasanaeth yn y maes; a'u holl wasanaeth y gwnaent iddynt wasanaethu ynddo oedd galed. |
| 15 |
| A brenin yr Aifft a lefarodd wrth fydwragedd yr Hebreësau; a ba rai enw un oedd Sipra, ac enw yr ail Pua: |
| 16 |
| Ac efe a ddywedodd, Pan fyddoch fydwragedd i'r Hebreësau, a gweled ohonoch hwynt yn esgor; os mab fydd, lleddwch ef; ond os merch, bydded fyw. |
| 17 |
| Er hynny y bydwragedd a ofnasant DDUW, ac ni wnaethant yn ôl yr hyn a ddywedasai brenin yr Aifft wrthynt; eithr cadwasant y bechgyn yn fyw. |
| 18 |
| Am hynny brenin yr Aifft a alwodd am y bydwragedd, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnaethoch y peth hyn, ac y cadwasoch y bechgyn yn fyw? |
| 19 |
| A'r bydwragedd a ddywedasant wrth Pharo, Am nad yw yr Hebreësau fel yr Eifftesau; oblegid y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn dyfod bydwraig atynt. |
| 20 |
| Am hynny y bu DUW dda wrth y bydwragedd: a'r bobl a amlhaodd, ac a aeth yn gryf iawn. |
| 21 |
| Ac oherwydd i'r bydwragedd ofni DUW, yntau a wnaeth dai iddynt hwythau. |
| 22 |
| A Pharo a orchmynnodd i'w holl bobl, gan ddywedyd, Pob mab a'r a enir, bwriwch ef i'r afon; ond cedwch yn fyw bob merch. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshbmw/exodus/001.mp3
40
1