Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Yr wyf am ddwyn un pla arall ar Pharo ac ar yr Aifft; ar l hynny, bydd yn eich gollwng yn rhydd; a phan fydd yn eich rhyddhau, bydd yn eich gyrru oddi yma'n llwyr. |
| 2 |
| Dywed wrth y bobl am i bob gu373?r a gwraig ohonynt gymryd benthyg tlysau arian a thlysau aur gan ei gymydog." |
| 3 |
| Gwnaeth yr ARGLWYDD i'r bobl gael ffafr gan yr Eifftiaid. Yr oedd Moses yn ddyn pwysig iawn yng ngwlad yr Aifft, yng ngolwg gweision Pharo ac yng ngolwg y bobl. |
| 4 |
| Yna dywedodd Moses, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Tua hanner nos, byddaf yn mynd allan trwy ganol yr Eifftiaid, |
| 5 |
| a bydd farw pob cyntafanedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntafanedig Pharo, sy'n eistedd ar ei orsedd, hyd gyntafanedig y forwyn sydd wrth y felin, a chyntafanedig pob anifail hefyd. |
| 6 |
| Bydd llefain mawr trwy holl wlad yr Aifft, mwy nag a fu o'r blaen nac a welir eto. |
| 7 |
| Ond ymhlith yr Israeliaid, ni bydd hyd yn oed gi yn ysgyrnygu ei ddannedd ar ddyn nac anifail; trwy hynny fe fyddwch yn gwybod bod yr ARGLWYDD yn gwahaniaethu rhwng yr Aifft ac Israel. |
| 8 |
| Fe ddaw pob un o'th weision i lawr ataf ac ymgrymu o'm blaen a dweud, 'Dos allan, ti a phawb sy'n dy ganlyn.' Yna fe af finnau allan." Aeth o u373?ydd Pharo wedi ei gythruddo. |
| 9 |
| Yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, "Ni fydd Pharo'n gwrando arnoch; felly byddaf yn amlhau fy rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft." |
| 10 |
| Gwnaeth Moses ac Aaron yr holl ryfeddodau hyn yng ngu373?ydd Pharo, ond caledodd yr ARGLWYDD galon Pharo fel na fynnai ryddhau'r Israeliaid o'i wlad. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/exodus/011.mp3
40
11