Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dw i'n mynd i daro'r Pharo a gwlad yr Aifft un tro olaf. Bydd e'n eich gollwng chi'n rhydd wedyn, heb unrhyw amodau. Yn wir, bydd e'n eich gyrru chi allan o'r wlad.
A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i'r Eifftiaid fod yn hael at bobl Israel. Roedd Moses ei hun yn cael ei ystyried yn ddyn pwysig iawn yn yr Aifft. Roedd gan swyddogion y Pharo a'r bobl gyffredin barch mawr ato.
a bydd pob mab hynaf drwy'r wlad yn marw — o fab hynaf y Pharo ar ei orsedd i fab hyna'r gaethferch sy'n troi y felin law, a hyd yn oed pob anifail gwryw oedd y cyntaf i gael ei eni.
Ond fydd dim yn bygwth pobl Israel na'u hanifeiliaid — dim hyd yn oed ci yn cyfarth! Byddwch chi'n deall wedyn fod yr ARGLWYDD yn gwahaniaethu rhwng yr Eifftiaid a pobl Israel.’
“Bydd dy swyddogion i gyd yn dod i edrych amdana i, ac yn plygu'n isel o'm blaen i. Byddan nhw'n dweud, ‘Ewch! — ti a'r bobl sy'n dy ddilyn di.’ Wedyn bydda i'n mynd.” Yna dyma Moses yn gadael y Pharo, wedi digio'n lân.
Er bod Moses ac Aaron wedi gwneud y gwyrthiau rhyfeddol yma o flaen y Pharo, roedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud e'n ystyfnig. Roedd yn gwrthod gadael i bobl Israel fynd yn rhydd.